Newyddion S4C

'Vaughan Gething yn dangos nad oes angen etholiad yn Yr Alban' meddai'r SNP

05/05/2024
gething swinney.png

Mae'r SNP wedi datgan bod penodiad Vaughan Gething yn Brif Weinidog Cymru yn dangos nad oes angen etholiad yn Yr Alban, yn sgil galwadau gan y Blaid Lafur.

Mae dirprwy arweinydd Plaid Lafur yr Alban wedi dweud y dylai llywodraeth SNP y wlad alw etholiad yn sgil penodi Prif Weinidog newydd yno.

Ond dywedodd yr SNP bod y galwadau rheini yn "rhagrithiol" am nad oedd Cymru wedi cael etholiad ar ôl i Vaughan Gething gymryd lle Mark Drakeford fel Prif Weinidog.

Cyhoeddodd Humza Yousaf ei fod yn ymddiswyddo fel arweinydd yr SNP yr wythnos ddiwethaf. 

Roedd ei ddyfodol wedi bod yn fantol ar ôl dod â chytundeb rhannu pŵer yr SNP â Phlaid Werdd yr Alban i ben yn sydyn.

Roedd hyn yn golygu ei fod yn arwain llywodraeth leiafrifol.

John Swinney yw'r ffefryn i gymryd ei le a does neb arall o'i blaid wedi datgan diddordeb yn ei herio eto.

Dywedodd dirprwy arweinydd Llafur yn Yr Alban y Farwnes Jackie Baillie y dylai etholiad yn Holyrood gael ei gynnal yn ogystal â'r etholiad cyffredinol yn y DU "er mwyn cael gwared ar fethiannau llywodraethau'r SNP yn barhaol.

"Mae gwasanaethau cyhoeddus yr Alban mewn anhrefn, fel ag y mae'r SNP - ond y cwbl maen nhw'n ei gynnig i Albanwyr ydi dyn ddoe a'i fethiannau parhaus, John Swiney.

"Ni wnaeth unrhyw Albanwr bleidleisio am y prif weinidog John Swinney na'r casgliad diweddaraf o wleidyddion yr SNP a fydd yn ffurfio'r cabinet nesaf."

'Gwahanol'

Dywedodd llefarydd ar ran y SNP: "Mae galwadau gan Jackie Baillie am etholiad yn Holyrood yn gwbl ragrithiol. Fis diwethaf yn unig, fe wnaeth y Blaid Lafur benodi Prif Weinidog newydd yng Nghymru heb etholiad. 

"Mae yna wahaniaeth rhwng systemau etholiadol San Steffan a Holyrood. Mae gennym ni system seneddol wahanol yn Holyrood. 

"Yn San Steffan, dydy ASau ddim yn ethol y Prif Weinidog, ond yn Holyrood, mae Aelodau o'r Senedd yn yr Alban yn ethol y prif weinidog. 

"Fe fydd yna bleidlais yn Senedd Yr Alban, yn dibynnu ar bwy mae'r SNP yn ethol fel eu harweinydd newydd."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.