Newyddion S4C

'Dal yn bosib' i'r Ceidwadwyr ennill yr etholiad cyffredinol

05/05/2024
mark harper.png

Mae hi 'dal yn bosib' i'r Ceidwadwyr ennill yr etholiad cyffredinol nesaf yn ôl un aelod o Lywodraeth y DU.

Daw hyn er gwaethaf canlyniadau siomedig i'r blaid yn is-etholiadau Lloegr dros y dyddiau diwethaf. 

Fe gollodd y blaid 473 o gynghorwyr wedi'r bleidlais ddydd Iau, yn ogystal â Maer Gorllewin canolbarth Lloegr Andy Street a gollodd ei le i ymgeisydd y blaid Lafur. 

Ond er y canlyniadau siomedig a dim ond wyth mis ar y mwyaf nes yr etholiad cyffredinol, mae Ysgrifennydd Trafnidiaeth Llywodraeth y DU Mark Harper wedi dweud ei fod yn parhau yn ffyddiog.

Wrth siarad ar raglen Sunday Morning with Trevor Phillips, dywedodd Mr Harper: "Mae angen i ni frwydro o hyd ac mae'r Blaid Geidwadol o dan arweinyddiaeth y Prif Weinidog yn barod am y frwydr honno.

"Roedden nhw yn ganlyniadau siomedig ond y pwynt ydy eu bod nhw'n dangos nad yw Llafur ar y trywydd i sicrhau mwyafrif, dydy Keir Starmer heb berswadio'r cyhoedd i wneud hynny.

"Felly mae hynny yn golygu fod yna frwydr o'n blaenau ni, mae'r Prif Weinidog yn barod am y frwydr honno, dwi'n barod a dwi'n gwybod fod y Blaid Geidwadol yn barod amdani hefyd.

"Mae'n rhaid i ni ganolbwyntio ar gyflawni blaenoriaethau pobl, dyna beth mae'r Prif Weinidog yn ei wneud, ac wedyn mae'n rhaid i ni werthu'r neges yna a datgan beth i'w wneud ar ôl etholiad gyda buddugoliaeth i'r Ceidwadwyr."

Fe lwyddodd Llafur i gipio 185 o seddi yn yr is-etholiadau, gyda Llundain, Manceinion, Rhanbarth Dinas Lerpwl a Gorllewin Canolbarth Lloegr yn ethol meer yr un o'r blaid hefyd. 

'Ofnadwy'

Dywedodd y cyn Ysgrifennydd Cartref Suella Braverman fore Sul ei bod yn difaru cefnogi Rishi Sunak i fod yn brif weinidog. 

Ychwanegodd: "Mae'n rhaid iddo gymryd cyfrifoldeb am hyn, ac felly, mae'n rhaid iddo wneud y sefyllfa yn iawn.

"Does dim cuddio'r ffaith fod rhain wedi bod yn ganlyniadau ofnadwy i'r Ceidwadwyr ac maen nhw'n awgrymu ein bod ni'n edrych ar Lywodraeth Lafur ac mae hynny yn fy nychryn.

"Dwi'n erfyn ar y Prif Weinidog i newid cyfeiriad, i adlewyrchu ar beth mae'r pleidleiswyr yn ddweud wrthom ni a newid y cynllun a'r ffordd y mae'n cyfathrebu ac yn ein harwain ni."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.