Rhybudd i bobl gynllunio o flaen llaw wrth i Bruce Springsteen berfformio yng Nghaerdydd
Mae pobl wedi cael eu cynghori i gynllunio o flaen llaw a theithio yn fuan wrth i'r 'Boss' Bruce Springsteen berfformio yn Stadiwm y Principality yng Nghaerdydd nos Sul.
Mae disgwyl i'r draffordd o gwmpas Caerdydd fod yn "brysur iawn" gyda nifer o ffyrdd yng nghanol y ddinas wedi eu cau.
Fe fydd capasiti ychwanegol yn cael ei ddarparu os yn bosibl ar lwybrau i fewn ac allan o Gaerdydd ddydd Sul yn ôl Trafnidiaeth Cymru.
Ond rhybuddiodd y cwmni y bydd yna lai o wasanaethau ddydd Sul, gyda'r disgwyl y bydd trenau yn brysur iawn.
Maent yn annog cwsmeriaid i adael digon o amser ar gyfer eu teithiau.
Fe fydd ciwiau ar ôl y digwyddiad ar gyfer gwasanaethau prif linell De Cymru ar Sgwâr Canolog a gwasanaethau'r Cymoedd yng nghefn yr orsaf.
Bydd Gorsaf Heol y Frenhines yn cau am 21:30 heblaw am fynediad hygyrch ac i deithwyr sy'n teithio i'r Bae.
Gohirio
Fe gafodd taith Bruce Springsteen ei gohirio gan y pandemig cyn cael ei gohirio ymhellach gan salwch i Springsteen, 74, pan yr oedd yn pryderu na fyddai byth yn gallu canu eto.
Ar ôl gohirio'r daith yn UDA, fe ddychwelodd i'r llwyfan ym mis Mawrth cyn y bydd yn dechrau ei daith yn Ewrop yng Nghaerdydd nos Sul.
Fe fydd yn perfformio 26 o sioeau yn Ewrop cyn dychwelyd i Ogledd America.
Mae'n dychwelyd i'r DU ar ôl perfformio yng Nghaeredin, Birmingham a Llunedain y llynedd.