Newyddion S4C

Beirniadu Llywodraeth Cymru am ddweud y byddai caniatáu nofio yn Afon Gwy ‘yn niweidio yr amgylchedd’

Afon Gwy

Mae grŵp ymgyrchu wedi beirniadu Llywodraeth Cymru am ddweud y byddai caniatáu nofio yn rhan o Afon Gwy “yn niweidio'r amgylchedd”.

Mae Cyfeillion Afon Gwy (Friends of the River Wye) wedi gwneud cais i gael statws dŵr ymdrochi i ran o’r afon yn y Warin ger y Gelli Gandryll.

Byddai hyn wedi ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru fonitro a gwella ansawdd ei dŵr, a rhoi gwybod i ddarpar nofwyr a oedd y dŵr yn ddiogel i nofio ynddo ai peidio, medden nhw.

Ond fe wrthododd Llywodraeth Cymru y cais gan ddweud fod ganddyn nhw bryderon ynghylch yr effeithiau amgylcheddol pe bai'r safle'n cael ei ddynodi'n ddŵr ymdrochi.

Gallai olygu mwy o ymwelwyr, erydiad y glannau a'r llwybrau, difrod i'r safle, problemau gyda sbwriel a phresenoldeb baw pobl a chŵn, medden nhw.

Wrth ysgrifennu ym mhapur newydd y Guardian dywedodd Oliver Bullough o’r grŵp ymgyrchu fod hyn yn sefyllfa “hurt, Catch-22”.

“Yr unig ffordd o warchod yr afon yw profi bod pobl yn nofio ynddi – ond mae gadael pobl yn y dŵr, yn ôl Llywodraeth Cymru, yn ei pheryglu’n amgylcheddol,” meddai.

Ychwanegodd fod nofwyr yn “cwyno’n gyson am gynhyrfu stumogau ar ôl iddyn nhw fentro i’r dŵr”.

‘Problemau’

Wrth ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod eisoes yn safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig (SoDdGA) ac yn ardal cadwraeth arbennig (ACA), felly roedd rhaid i weithgareddau megis nofio, canŵio a hyd yn oed cerdded ar hyd yr afon gael eu hasesu a chael caniatâd Cyfoeth Naturiol Cymru.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae’n bosibl y bydd y Warin yn dal i gael ei ystyried ar gyfer dynodiad yn y dyfodol os bydd yr effeithiau amgylcheddol yn cael eu hasesu’n iawn a bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhoi caniatâd ar gyfer ymdrochi.

“Rydym wedi ymrwymo i ddynodi mwy o ddyfroedd ymdrochi mewndirol ledled Cymru, ond ni fydd hyn ar draul ein bywyd gwyllt lleol a’u cynefinoedd.”

Roedd ymdrechion hefyd i uwchraddio statws cadwraeth yr Afon Gwy ar ochr Lloegr. 

Ond gwrthodwyd cais gan Gyngor Sir Henffordd i gael  holl ddalgylch yr afon yn Lloegr yn Barth Gwarchod Dŵr gan Lywodraeth y DU yn 2022.

Dywedodd y Cynghorydd Louis Stark, a gyflwynodd y cynnig gwreiddiol a hefyd un yn ceisio statws ymdrochi i’r afon yn Rhosan ar Wy  (Ross-on-Wye), fod y ddau “yn parhau i fod yn bolisi gan y cyngor”.

“Mae’r problemau gyda’r afon yn fwy na dim ond a yw’n ddiogel nofio ynddi, ac mae angen i ni fynd i’r afael â’r rhain nawr,” meddai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.