Newyddion S4C

Gwasanaethau trên ar gyfer digwyddiadau mawr Cymru yn 'annigonol'

04/05/2024

Gwasanaethau trên ar gyfer digwyddiadau mawr Cymru yn 'annigonol'

Mae angen i Drafnidiaeth Cymru wneud mwy i ddarparu gwasanaeth trenau "digonol" ar gyfer digwyddiadau mawr, yn ôl un o bwyllgorau'r Senedd.

Daw wrth i filoedd gynllunio eu teithiau i Gaerdydd ar gyfer cyngerdd enfawr Bruce Springsteen yn Stadiwm y Principality nos Sul.

Yn ei adroddiad blynyddol ar Drafnidiaeth Cymru, mae’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith wedi galw am gamau ychwanegol i sicrhau bod pobl yn gallu teithio ar drenau i ddigwyddiadau mawr.  

Dywedodd Llyr Gruffydd AS, Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, “Yn rhy aml, mae teithwyr wedi cael eu siomi gan wasanaeth is-safonol, boed hynny oherwydd diffyg trenau a cherbydau yn ystod digwyddiadau mawr.

“Er hyn, mae’r gwasanaethau ychwanegol a darparwyd ar gyfer y gemau pel-droed diweddar yn gam yn y cyfeiriad cywir a gobeithiwn weld hwn yn parhau ar gyfer gemau chwaraeon a chyngherddau mawr y dyfodol.  

“Gwyddom fod llawer o ffordd i fynd er mwyn adfer ymddiriedaeth y cyhoedd yn ein rheilffyrdd, yn enwedig ar ddiwrnodau pan gynhelir digwyddiadau mawr.”  

‘Hynod falch’

Mae Trafniaeth Cymru wedi dweud yr wythnos hon eu bod nhw “ar y trywydd iawn ar gyfer digwyddiadau'r haf”.

Dywedodd Trafnidiaeth Cymru eu bod nhw wedi llwyddo i gludo dros 100,000 o gefnogwyr i ddigwyddiadau diweddar yng Nghaerdydd, gan gynnwys y Chwe Gwlad a’r gemau ail-gyfle Euro 2024.

Dywedodd Georgina Wills, Rheolwr Cyflenwi Cwsmeriaid a Chynllunio Digwyddiadau Trafnidiaeth Cymru: "Rydym yn hynod falch o'n timau sydd wedi gweithio'n ddiflino y tu ôl i'r llenni i ddarparu ar gyfer y mewnlifiad o gefnogwyr sy’n mynychu’r digwyddiadau mawr hyn.

"Mae ein gallu i gludo 100,000 o gefnogwyr yn llwyddiannus trwy orsaf Caerdydd Canolog yn dyst i'n hymrwymiad i ddarparu gwasanaethau trafnidiaeth dibynadwy ac effeithlon.

"Gan adeiladu ar y llwyddiant hwn, rydym nawr yn edrych ymlaen at dymor prysur yr haf, gyda nifer o ddigwyddiadau mawr ar y gweill, gan ddechrau gyda chyngerdd Bruce Springsteen y penwythnos hwn."

Beirniadaeth

Mae rhai o ddigwyddiadau mawr y misoedd nesaf yn cynnwys:

•    5 Mai: Bruce Springsteen
•    11 Mehefin: Pink
•    18 Mehefin: Taylor Swift
•    25 Mehefin: Foo Fighters
•    09 Awst Billy Joel
•    17 Awst: Speedway

Bydd hynny’n golygu bod cysylltiadau rheilffyrdd y brifddinas o dan bwysau i gludo miloedd o bobl yn drefnus – a heb oediadau – dros fisoedd yr haf, meddai’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith.

Maen nhw’n annog Trafnidiaeth Cymru i wella ei gynlluniau ar gyfer digwyddiadau mawr ac i gynnal trafodaethau â Network Rail ynghylch aildrefnu gwaith peirianyddol ar adegau pan fydd yn gwrthdaro â chyngherddau neu ddigwyddiadau chwaraeon mawr.

Yn y gorffennol mae'r Pwyllgor wedi beirniadu’r gwasanaeth ar ddiwrnodau gêm bêl-droed Cymru fel enghraifft o’r gwasanaethau "gwael" sy’n cael eu darparu ar gyfer digwyddiadau mawr, gan nodi bod y trên olaf yn aml yn gadael ychydig funudau ar ôl y chwiban olaf.

Wrth ymateb i’r feirniadaeth, trefnodd Trafnidiaeth Cymru drenau hwyr ar gyfer y gemau ail-gyfle yn erbyn y Ffindir a Gwlad Pwyl gyda’r Pwyllgor – a chefnogwyr – yn cymeradwyo’r penderfyniad.  

‘Dibynadwyedd’

Mae’r Pwyllgor Senedd hefyd yn galw ar sefydliad Trafnidiaeth Cymru i dalu teithwyr i gwblhau eu taith mewn tacsi os caiff eu gwasanaeth trên ei ganslo ac os nad oes gwasanaeth bws wedi’i drefnu yn lle hynny.  

Rhwng mis Ionawr a mis Gorffennaf 2023, gan orsafoedd yng Nghymru oedd y gyfradd uchaf o wasanaethau wedi eu canslo ym Mhrydain, medden nhw.

Yn ogystal, Trafnidiaeth Cymru oedd ar waelod y rhestr mewn arolwg ynghylch bodlonrwydd defnyddwyr rheilffyrdd a gynhaliwyd gan Transport Focus, mudiad sy’n cynrychioli teithwyr.  

Dywedodd David Beer, uwch reolwr Cymru, Transport Focus, “Mae teithwyr wedi croesawu cyflwyniad trenau newydd sydd wedi ehangu capasiti a mynd i’r afael â chansladau. Mae’n dda gweld tystiolaeth o’r gwellhad hwn wedi’i adlewyrchu yn ein harolwg rheilffyrdd sydd bellach yn dangos gwelliannau mewn boddhad ym mhob agwedd o’r daith.

“Rydym yn parhau i weithio gyda Thrafnidiaeth Cymru a Network Rail wrth iddynt roi teithwyr wrth graidd ei gwasanaeth tra maent yn ailadeiladu ei dibynadwyedd ac ymddiriedaeth teithwyr.”

Er bod arwyddion bod pethau’n dechrau gwella, mae cryn rwystredigaeth o hyd ymhlith teithwyr oherwydd bod gwasanaethau’n cael eu canslo – yn enwedig pan nad oes ffordd arall o gwblhau eu taith.  

Dywedodd y Pwyllgor eu bod nhw’n dymuno gweld ystyriaeth yn cael ei rhoi i adeg y flwyddyn wrth wneud penderfyniadau ynghylch canslo gwasanaethau, ac am weld Trafnidiaeth Cymru yn cydnabod bod cael eich gadael mewn gorsaf drenau am 9pm ym mis Gorffennaf yn wahanol iawn i’r sefyllfa gyfatebol ym mis Rhagfyr. 

Ar hyn o bryd, mae penderfyniadau i ganslo gwasanaethau yn cael eu trin yr un peth drwy gydol y flwyddyn, medden nhw.

Dylai lleoliad yr orsaf lle caiff y gwasanaeth ei therfynu, a pha mor agos ydyw at wasanaethau a chyfleusterau trafnidiaeth amgen, hefyd gael eu cynnwys yn y broses o wneud penderfyniad i ganslo gwasanaeth, meddai’r Pwyllgor.  

Dywedodd Llyr Gruffydd MS, “Mae ein hadroddiad blynyddol yn anfon neges glir: rhaid rhoi terfyn ar berfformiad gwael. Os bydd Trafnidiaeth Cymru yn ymgysylltu mewn modd adeiladol ac yn gwrando ar ein hargymhellion, dylem weld gwelliannau yn fuan.”
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.