Newyddion S4C

Ffôn oedd yn eiddo i bennaeth ysgolion yng Ngwynedd 'yn yr un lleoliadau' â ffôn merch

03/05/2024
Neil Foden

Mae llys wedi clywed fod ffôn symudol oedd yn eiddo i bennaeth ysgolion yng Ngwynedd wedi bod yn yr un lleoliadau anghysbell â ffôn merch y mae wedi ei gyhuddo o'i cham-drin.

Mae Neil Foden - oedd yn bennaeth yn Ysgol Friars, Bangor, ac yn Bennaeth Strategol Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes - yn gwadu 20 o gyhuddiadau sy'n ymwneud â throseddau rhyw yn erbyn pump o blant rhwng Ionawr 2019 a Medi 2023.

Wrth i’r ail wythnos yn achos Neil Foden ddirwyn i ben yn Llys y Goron yr Wyddgrug, fe glywodd y llys gan dditectif o Heddlu Gogledd Cymru.

Roedd yr heddlu wedi creu amserlen o negeseuon honedig a gafodd eu hanfon rhwng ffôn Neil Foden â’r plant mae wedi ei gyhuddo o’u cam-drin, clywodd y llys.

Roedden nhw wedi gwneud hynny drwy ddadansoddi data o'u ffonau gyda chymorth technoleg mapio drwy wahanol fastiau telegyfathrebu.

Roedd tystiolaeth yr heddlu yn dangos bod data o ffôn symudol un plentyn - a elwir yn Plentyn A - wedi eu galluogi i leoli’r plentyn yn yr un ardaloedd daearyddol â llefydd roedd ffôn symudol Neil Foden wedi bod ar yr un pryd.

Roedd hynny yn ôl yr erlyniad yn cefnogi honiadau’r achwynwyr fod Neil Foden wedi bod yn eu cam-drin yn ei gar mewn llefydd anghysbell.

Fe glywodd y rheithgor fore Gwener fargyfreithiwr yr erlyniad, Mr John Philpotts, yn darllen crynodeb o amserlen y dystiolaeth dechnegol yn erbyn Neil Foden.

Tystiodd y Ditectif Jayne Marsden o Heddlu’r Gogledd fod y dystiolaeth yn gywir.

‘Edrych arnat ti’

Fe glywodd y llys hefyd fod archwiliadau fforensig wedi eu gwneud ar ddyfeisiau a theclynau digidol oedd yn eiddo i Neil Foden.

Roedd gan Mr Foden nifer o luniau anweddus honedig o Blentyn A yn ei feddiant pan gafodd ei arestio ym mis Medi’r llynedd, meddai’r erlyniad.

Fe ddarllenwyd rhai negeseuon oedd yn honedig wedi dod o ffôn Neil Foden at blentyn A yn gofyn am fideos neu luniau ohoni, gan ychwanegu: “Dwi wrth fy modd yn edrych arnat ti, ti mor brydferth."

Roedd peiriant chwilio’r we wedi ei ddefnyddio yn 2010 a 2012 i ddod o hyd i gynnwys pornograffig gan gynnwys rhyw rhwng athro a merched ysgol, meddai’r erlyniad.

Fe gyfeiriodd John Philpotts hefyd at y ffaith fod Plentyn A wedi chwilio am wybodaeth ar-lein ar ei ffôn, gan gynnwys gwybodaeth yn ymwneud â meithrin perthynas amhriodol.

Roedd hi wedi defnyddio termau chwilio fel “How to tell your parents that you’re groomed” “I think I’m being sexually groomed, what do I do” a “Can a male teacher hold a female pupil’s hand”.

‘Gwrthod’

Fe glywodd y llys am ddatganiad gafodd ei gyflwyno gan Neil Foden i’r heddlu yn ystod eu hymchwiliad (sydd wedi ei enwi yn Operation Bluestone gan yr heddlu) wedi iddo ddewis peidio gwneud sylw yn ystod sawl cyfweliad â nhw.

Yn y datganiad fe ddywedodd Neil Foden: "Rwyf yn gwrthod unrhyw awgrym fy mod i wedi ymosod yn rhywiol, neu wedi cyflawni unrhyw weithgarwch rhywiol gyda'r achwynwyr yma."

Bydd ar achos yn parhau yn Llys y Goron y Wyddgrug  ddydd Mawrth.

Llun: Neil Foden gan ITV Cymru.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.