Newyddion S4C

Teulu yn rhoi teyrnged i'w mab 'llawen a doniol' ar ôl i'w gorff gael ei ddarganfod yn Sir Benfro

03/05/2024
Luke Stephenson

Mae teulu dyn ifanc wedi rhoi teyrnged iddo ar ôl i'w gorff gael ei ddarganfod yn aber Afon Cleddau yn Sir Benfro .

Fe wnaeth yr heddlu gadarnhau mai corff Luke Stephensen, a oedd wedi bod ar goll, a gafodd ei ddarganfod ddydd Mercher.

Roedd y dyn 19 oed wedi bod ar goll ers 13 Ebrill.

Mewn datganiad, dywedodd ei deulu: "Roedd Luke yn ddyn ifanc llawen a doniol ac roedd bob amser eisiau helpu eraill. 

"Roedd yn fab, brawd, ŵyr ac ewythr cariadus, a bydd colled ar ei ôl am byth.

“Rydyn ni wedi colli rhan enfawr o’n teulu, ac mae ein colled yn cael ei rannu gan ei holl ffrindiau oedd hefyd yn ei garu’n fawr.

“Hoffem ddiolch i’r gymuned leol am y gefnogaeth aruthrol rydym wedi’i derbyn.”

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed-Powys y byddant yn parhau i gefnogi’r teulu.

Ar 19 Ebrill fe gyhoeddodd yr heddlu eu bod nhw wedi rhoi’r gorau i chwilio am Luke o Ddoc Penfro “ar ôl ystyriaeth ofalus o'r holl wybodaeth a chyngor arbenigol oedd ar gael".

Llun: Heddlu Dyfed-Powys

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.