Cyhoeddi canlyniadau Comisiynwyr Heddlu a Throsedd Cymru
Cyhoeddi canlyniadau Comisiynwyr Heddlu a Throsedd Cymru
Mae canlyniadau Comisiynwyr Heddlu a Throsedd Cymru wedi eu cyhoeddi, gan gynnwys y comisiynwyr benywaidd cyntaf yng Nghymru.
Cafodd Jane Mudd o’r Blaid Lafur ei hethol i’r rôl yn rhanbarth Heddlu Gwent, a Emma Wools o'r blaid Lafur a cydweithredol yn rhanbarth Heddlu De Cymru.
Emma Wools yw comisiynydd heddlu du cyntaf y Deyrnas Unedig yn ogystal.
Dywedodd ei fod yn "fraint enfawr ac yn gyfrifoldeb enfawr".
“Mae’n gyfle pwerus i greu newid, hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant, a bod yn eiriol dros gymunedau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol,” meddai.
Mae Jane Mudd yn cymryd lle Jeff Cuthbert a Emma Wools yn cymryd lle cyn-arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru, Alun Michael.
Fe etholwyd Dafydd Llywelyn o Blaid Cymru yn Gomisiynydd Heddlu Dyfed-Powys am y trydydd tro, ac mae Andy Dunbobbin o'r Blaid Lafur wedi dal ei afael ar ei swydd yng Ngogledd Cymru.
Roedd y nifer a bleidleisiodd yn isel gyda dim ond 17% yn cymryd rhan. Roedd y ffigwr yn llai fyth yn Gwent gyda 15.63% yn unig yn cymryd rhan.
'Siomedig'
Yn Lloegr mae Llafur wedi dathlu ennill cynghorau allweddol a sawl ras ar gyfer meiri rhanbarthol (regional mayors), gyda'r Ceidwadwyr yn colli pedwar cyngor a mwy na 200 o gynghorwyr.
Fe wnaeth Llafur ennill ras maer rhanbarthol newydd Efrog a Gogledd Swydd Efrog - ardal sy'n cwmpasu etholaeth Rishi Sunak.
Roedd buddugoliaeth i Ben Houchen yn ras maer Dyffryn Tees yn un canlyniad cadarnhaol ar ddiwrnod gawel i'r Torïaid.
Enillodd Llafur hefyd hefyd isetholiad De Blackpool, gan gipio’r sedd oddi ar y Torïaid, gyda gogwydd o 26%.
Dywedodd Rishi Sunak fod y colledion yn “siomedig”, tra bod Syr Keir Starmer o'r farn bod y canlyniad yn "anfon neges".
Canlyniad Gogledd Cymru:
Andy Dunbobbin – Llafur: 31,950 - 36.0%
Brian Jones – Ceidwadwyr: 26,281 - 29.6%
Ann Griffith – Plaid Cymru: 23,466 - 26.4%
Richard Marbrow – Democratiaid Rhyddfrydol: 7,129 - 8.0%
Canlyniad Dyfed-Powys:
Dafydd Llywelyn – Plaid Cymru: 31,323 - 40.9%
Ian Harrison – Ceidwadwyr: 19,234 - 25.0%
Philippa Thompson – Llafur: 18,353 - 24.0%
Justin Griffiths - Democratiaid Rhyddfrydol:: 7,719 - 10.1%
Jane Mudd – Llafur: 28,476 - 41.7%
Hannah Jarvis – Ceidwadwyr: 21,919 - 32.1%
Donna Cushing - Plaid Cymru: 9,864 - 14.4%
Mike Hamilton - Democratiaid Rhyddfrydol: 8,078 - 11.8%
Canlyniadau De Cymru:
Emma Wools - Llafur - 73,128 - 45.2%
George Carroll - Ceidwadwyr - 43,344 - 26.8%
Dennis Clarke - Plaid Cymru - 27,410 - 16.9%
Sam Bennett - Democratiaid Rhyddfrydol - 17,908 - 11.1%