CPD Amlwch yn ‘torri pob cysylltiad’ gyda hyfforddwr wedi digwyddiad honedig
Mae Clwb Pêl-droed Amlwch wedi cyhoeddi eu bod wedi ‘torri bob cysylltiad’ gyda un o hyfforddwyr y clwb yn dilyn digwyddiad honedig ar gae pêl-droed y penwythnos diwethaf.
Cafodd dyn 43 oed ei arestio wedi i Heddlu’r Gogledd gadarnhau eu bod yn ymchwilio i ymosodiad honedig ar lumanwr yn ystod gêm rhwng Amlwch a Phenrhyndeudraeth yng Nghynghrair Pêl-droed Arfordir Gogledd Cymru ar ddydd Sadwrn 27 Ebrill.
Mae’r dyn wedi ei ryddhau ar fechnïaeth tra bod ymchwiliad yr heddlu'n parhau.
Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol nos Iau, fe wnaeth CPD Amlwch gadarnhau eu bod yn cydweithredu gydag ymchwiliad yr heddlu.
Dywedodd llefarydd ar ran y clwb: “Rydym ni fel clwb wedi cael ein tristau’n fawr gan y digwyddiadau ar y penwythnos.
“Ymddiheurwn yn ddiamod i bawb yn CPD Penrhyndeudraeth...
“Fel clwb, rydym yn condemnio ymddygiad o'r fath ac wedi torri pob cysylltiad â'r unigolyn dan sylw ar unwaith.
“Byddwn yn cydweithredu â phob ymchwiliad gyda Heddlu Gogledd Cymru, Cymdeithas Bêl-droed Arfordir Gogledd Cymru a CBDC i sicrhau bod y camau cywir yn cael eu cymryd gan bob parti.
“Mae'r clwb hwn yn cael ei redeg gan dîm clos o wirfoddolwyr nad ydynt, ochr yn ochr â'u swyddi llawn amser, yn gyfarwydd â digwyddiadau fel hyn, y lefel hon o graffu a chyhoeddusrwydd cenedlaethol.
“Nid yw'n deg barnu chwaraewyr, hyfforddwyr, gwirfoddolwyr a chefnogwyr oherwydd gweithredoedd un unigolyn.
“Ni fyddwn yn gwneud unrhyw sylw pellach ar y mater hyd nes y bydd unrhyw ymchwiliad wedi dod i ben ac yn gobeithio, os caniateir, i orffen y tymor ar gyfer y chwaraewyr sy'n weddill nad ydynt wedi cyflawni unrhyw gamwedd.”