Y Boss yn y brifddinas: Trefniadau teithio mewn lle ar gyfer cyngerdd Bruce Springsteen
Mae Trafnidiaeth Cymru yn dweud eu bod yn "paratoi am dymor prysur yr haf" gan ddechrau pan y bydd Bruce Springsteen yn perfformio yng Nghaerdydd ddydd Sul.
Dywedodd Trafnidiaeth Cymru eu bod wedi cludo dros 100,000 o gefnogwyr i ddigwyddiadau diweddar yng Nghaerdydd, gan gynnwys y Chwe Gwlad a gemau ail-gyfle Euro 2024.
Yn ôl y cwmni, ni chafodd unrhyw achosion diogelwch sylweddol eu cofnodi.
Dywedodd Rheolwr Cyflenwi Cwsmeriaid a Chynllunio Digwyddiadau Trafnidiaeth Cymru, Georgina Wills: "Mae ein gallu i gludo 100,000 o gefnogwyr yn llwyddiannus trwy orsaf Caerdydd Canolog yn dyst i'n hymrwymiad i ddarparu gwasanaethau trafnidiaeth dibynadwy ac effeithlon.
"Gan adeiladu ar y llwyddiant hwn, rydym nawr yn edrych ymlaen at dymor prysur yr haf, gyda nifer o ddigwyddiadau mawr ar y gweill, gan ddechrau gyda chyngerdd Bruce Springsteen y penwythnos hwn."
Fe fydd capasiti ychwanegol yn cael ei ddarparu os yn bosibl ar lwybrau i fewn ac allan o Gaerdydd ddydd Sul yn ôl Trafnidiaeth Cymru.
Ond rhybuddiodd y cwmni y bydd yna lai o wasanaethau ddydd Sul, gyda'r disgwyl y bydd trenau yn brysur iawn.
Maent yn annog cwsmeriaid i adael digon o amser ar gyfer eu teithiau.
Fe fydd ciwiau ar ôl y digwyddiad ar gyfer gwasanaethau prif linell De Cymru ar Sgwâr Canolog a gwasanaethau'r Cymoedd yng nghefn yr orsaf.
Bydd Gorsaf Heol y Frenhines yn cau am 21:30 heblaw am fynediad hygyrch ac i deithwyr sy'n teithio i'r Bae.
Llun: EJ Hersom