Newyddion S4C

‘Un o sêr y gyfres’: Caernarfon yn ganolog i lwyddiant STAD medd Wyn Bowen Harries

05/05/2024

‘Un o sêr y gyfres’: Caernarfon yn ganolog i lwyddiant STAD medd Wyn Bowen Harries

Tref Caernarfon yw ‘un o sêr’ y gyfres STAD, yn ôl un o'i phrif gymeriadau.

Mae Wyn Bowen Harries wedi bod yn chwarae’r cymeriad Charlie ‘Gurkha’ Jones ers dyddiau’r gyfres wreiddiol Tipyn o Stad, a ddaeth i ben yn 2008.

Yn dilyn llwyddiant STAD yn 2022, mae'r actor o Fethesda wedi cael dychwelyd i stad ffuglennol Maes Menai yng Nghaernarfon i ffilmio ail gyfres o’r ddrama.

Wrth siarad â Newyddion S4C ar y set ffilmio, dywedodd Mr Bowen Harries bod lleoliad y ddrama yn ganolog i'w phoblogrwydd ymysg gwylwyr.

“‘Da ni’m yn trio cuddio bod o’n rywle ffals na ddim byd. Caernarfon ydi o, a’r dref ei hun ydy un o sêr y gyfres," meddai.

Bydd y ddrama, sy'n cael ei chynhyrchu gan Triongl a Chwmni Da, yn ail-ymweld â'r teulu Gurkha a’u cymdogion, sy'n aml mewn sefyllfaoedd anodd.

'Pobl unigryw'

Yn ôl cynhyrchydd y gyfres, Eryl Huw Phillips, mae’r ddrama yn “cyfleu caledi” ond hefyd yn dangos sut mae cymeriad “unigryw” y bobl yn eu helpu i oroesi.

“Mae 'na rywbeth am bobl Caernarfon, mae ‘na ruddin iddyn nhw, mae ‘na gymeriad iddyn nhw, maen nhw’n bobl unigryw, ac mae’n grêt gallu gwneud cyfres sydd yn benthyg ar y cymeriad yna,” meddai.

“Mae’n gyfres real iawn sy’n cyfleu caledi, byw ar stad debyg i hon [Maes Menai yng Nghaernarfon], ac mae hefyd yn dangos cymeriad y bobl, bod nhw’n gallu dod trwy’r caledi hynny gyda hiwmor a gyda dewder.”

Yn sgil yr argyfwng costau byw, mae Mr Phillips yn awyddus i adrodd straeon "perthnasol".

“Dw i’n credu bod o’n bwysig bod y ddrama yn sôn am straeon sy’n berthnasol i bobl nawr,” meddai.

“Un o’n lleoliadau ni yw’r banc bwyd, ac un o’r pethau trista am ein cymdeithas ni ar hyn o bryd yw bod cymdeithas yn dod yn fwy dibynnol ar fanciau bwyd, felly mae’n bwysig bod y ddrama yn cyfleu hwnna ac yn dangos sut mae pobl yn gorfod byw'r dyddiau yma.”

Ychwanegodd Mr Bowen Harries: “Mae ‘na bethau anffodus iawn yn digwydd wrth gwrs ac mae’n bwysig iawn bod gennym ni bobl fel Charlie Gurkha a Carys Gurkha sydd yn trio helpu cymdeithas drwy redeg banc bwyd, a trio bod yn bobl sydd yn edrych ar ôl nid yn unig eu teuluoedd ond cymdeithas eu hunain.”

'Rhywbeth i bawb'

Er bod y ddrama yn delio â materion difrifol, mae elfen o gomedi yn dod ag ysgafnder.

“Caernarfon ydi o, a dydi bob dim ddim yn hollol o ddifri,” meddai Mr Bowen Harries.

“Dydi petha ddim cweit ar ryw lefel dwys ofnadwy er bod ‘na bethau dwys yn digwydd, ond yn sicr mae 'na rhywbeth i bawb ynddo fo. 

“A dwi’n gobeithio bod o’n adlewyrchu cymdeithas a deud stori dda - mae ‘na straeon arbennig o dda yn digwydd yn y gyfres i bawb o bob math o gymeriadau.”

Bydd yr ail gyfres o STAD i’w gweld ar S4C yn 2025.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.