Newyddion S4C

Pryder am ddyfodol ysgol gynradd yng Ngheredigion

02/05/2024

Pryder am ddyfodol ysgol gynradd yng Ngheredigion

Mae'n ddiwrnod gwlyb tu fas i Ysgol Llangwyryfon wrth i'r plant adael ar ddiwedd y dydd.

A phryder ymysg y rhieni sy'n pigo nhw lan am ddyfodol yr ysgol.

"Shwt ni'n gallu paratoi?

"Mae fe mor anodd i feddwl y pethau yma trwyddo a chi ddim yn gwybod os mae fe'n bryd i ddechrau chwilio neu mae fe'n ymladd ar gyfer yr ysgol i fod.

"Ni ddim yn gwybod!"

"Os chi'n cael gwared o'r ysgol hyn, bydd y gymuned yn marw.

"Mae mor syml â hynny.

"Fi'n teimlo bod cefn gwlad yn cael ei thargedu eithaf tipyn a mae hwn jyst yn un peth arall ar ein pennau ni."

Mae'r ysgol wedi clywed gan Gyngor Sir Ceredigion y byddan nhw'n rhan o adolygiad dros y misoedd nesa gyda'r posibilrwydd y gallai hi gau.

Heno, mae cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal yn yr ysgol i drafod ymgyrch dros ddiogelu'r safle.

Ond, yn ôl Cadeirydd y Llywodraethwyr yma mae diffyg gwybodaeth gan y Cyngor yn rhwystredig.

"Ni wedi cael Swyddog Cyswllt wedi penodi ond ar ôl ambell gwestiwn, mi wedon nhw bod e'n ormod o waith i'r adran i ymateb i'n cwestiynau ni, felly wnaethon nhw gyfeirio ni at y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

"Erbyn hyn, ni 'di cyflwyno bron chwech cais Rhyddid Gwybodaeth i'r Cyngor.

"Mae un wedi cael ateb yn gwrthod unrhyw wybodaeth yn y cais.

"Mae un arall yn hwyr a mae pedwar arall yn y peiriant yn rhywle."

Mae Cyngor Ceredigion wedi cadarnhau eu bod nhw ar fin cynnal adolygiad i'w ysgolion cynradd nhw.

Mae hynny er mwyn sicrhau isadeiledd effeithlon a chynaliadwy ar gyfer y dyfodol.

Maen nhw'n dweud ei bod hi'n amhriodol gwneud sylw ar nifer yr ysgolion na chwaith yr arbedion posib.

Ond ni'n deall bod saith o ysgolion o dan y chwyddwydr gan gynnwys Ysgol Llangwyryfon, yn ogystal ag Ysgol Rhos Helyg sydd ar ddwy safle yn Llangeitho a Bronant.

"Ni wastad dan fygythiad.

"Mae'r Cyngor Cymuned dan fygythiad.

"Mae'r gwasanaethau bws dan fygythiad yn ogystal.

"Felly, dim jyst cau ysgol y'ch chi'n gwneud wrth gau ysgol mewn ardal wledig, ond y'ch chi'n cau canolfan a chalon."

Ar adeg lle mae coffrau cynghorau ar draws Cymru yn wynebu heriau mae'n rhaid gwneud penderfyniadau anodd.

Ond, yn ôl un cynghorydd, mae cau ysgolion yn ergyd arall i gefn gwlad.

"Mae'n deillio o'r ffaith bod 'na ddim arian o gwmpas neu lot llai nag oedd pawb yn disgwyl.

"I fod yn deg i'r Cyngor, mae'n rhaid safio arian rhywle.

"Ond mae isio bod hefyd yn ymwybodol os ydyn ni'n cau'r ysgolion yma maen nhw i gyd yn cefn gwlad ni'n rhoi'r hoelen arall yn arch cefn gwlad."

Mi fydd papur cynnig yn mynd o flaen Cabinet y Cyngor yn gynnar mis Gorffennaf yn nodi rhai posibiliadau ar gyfer cwrdd â'r heriau sy'n bodoli ar draws gwasanaethau.

Ond yma yn Llangwyryfon, mae'r ymgyrch i ddiogelu'r ysgol wedi hen ddechrau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.