Rhybudd i ymwelwyr ‘barchu’ Eryri yn sgil ‘pwysau enfawr’
Mae’r mudiad gwirfoddol Cymdeithas Eryri wedi rhybuddio ymwelwyr i "barchu" Eryri yn sgil y "pwysau enfawr" fydd ar y parc cenedlaethol dros Ŵyl y Banc.
Mae disgwyl i ardal Eryri fod yn hynod o brysur unwaith eto dros y dyddiau nesaf wrth i ymwelwyr fanteisio ar y penwythnos hir - gydag un arall ar ddiwedd y mis.
Ond daw’r rhybudd yn dilyn "problemau" dros benwythnosau hir a thymor yr haf yn y gorffennol.
Roedd problemau traffig sylweddol dros penwythnos y Pasg y llynedd, gyda 40 o gerbydau yn cael eu symud o Eryri yn dilyn "parcio anghyfrifol".
“Mae pwysau enfawr y niferoedd sy'n dod i Eryri yn arwain at broblemau sbwriel, parcio amhriodol a phethau gwaeth," meddai'r gymdeithas.
“Rydan ni eisiau pobl allu dod i fwynhau’r ardal anhygoel hon, ond ein neges yw, plîs gwnewch bopeth o fewn eich gallu i gynllunio eich ymweliad ymlaen llaw a lleihau’r effaith ar yr amgylchedd."
Mae'r gymdeithas felly yn annog pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, i aros mewn meysydd gwersylla swyddogol, ac i beidio â gadael sbwriel.
Mae Heddlu Gogledd Cymru hefyd wedi galw ar bobol i gofio parcio'n gyfrifol dros benwythnos Gwŷl y Banc.
"Dylech osgoi blocio rhodfeydd neu fannau mynediad a defnyddio mannau parcio dynodedig," medden nhw.
"Gadewch i ni flaenoriaethu diogelwch ffyrdd a hygyrchedd drwy fod yn ystyriol a dilyn rheolau parcio."
'Mwy o safleoedd dan bwysau'
Daw eu sylwadau wrth i adroddiad newydd gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri amcangyfrif fod bron i 560,000 o bobl wedi cerdded i fyny’r Wyddfa yn 2019 cyn y clo mawr.
Cofnodwyd dros 140,000 o gerddwyr yn Nyffryn Ogwen gan gynnwys Cwm Idwal a cherddodd 75,000 i fyny Cader Idris.
Ac ar ôl i'r parc ail-agor i'r cyhoedd ym mis Gorffennaf 2020, roedd "miloedd" wedi heidio i gefn gwlad.
Rhywbeth arall sy'n effeithio ar isadeiledd Eryri yw'r cyfryngau cymdeithasol, medden nhw.
Mae "mwy o safleoedd dan bwysau", meddai'r gymdeithas, wrth i "ddemograffeg ymwelwyr newid mewn ymateb i'r cyfryngau cymdeithasol".
"Mae'n gwneud mannau oedd gynt yn dawel yn boblogaidd yn sydyn, ond heb ddarparu’r gwasanaethau a’r isadeiledd i gyd-fynd â hyn," meddai.
Y llynedd, roedd y parc cenedlaethol wedi gofyn i ymwelwyr i beidio â rhannu lleoliadau hardd ar Instagram a TikTok rhag denu torfeydd yn eu sgil.
Llun: Heddlu Gogledd Cymru.