Newyddion S4C

Gwrthwynebiad i dai newydd yn Sir Gaerfyrddin wrth i garthffos fyrstio

01/05/2024
Pontyrhyd

Mae carthffos sy'n gwasanaethu pentref yn Sir Gaerfyrddin wedi byrstio wrth i drigolion yno wrthwynebu adeiladu tai newydd.

Mae yna wrthwynebiad i’r datblygiad newydd ym Mhorthyrhyd a gafodd sêl bendith pwyllgor cynllunio'r cyngor ddydd Iau ar y sail na fydd seilwaith yn gallu ymdopi a hefyd yr effaith ar yr iaith Gymraeg.

Mae Mudiad Amddiffyn Porthyrhyd a Dyfodol i’r Iaith ymysg y rheini sy’n gwrthwynebu adeiladu 42 o dai yno gan ddweud y bydd yn arwain at Seisnigeiddio pentref lle mae 68.5% yn gallu’r Gymraeg.

Cafodd Dŵr Cymru wybod bod y bibell wedi byrstio ym Mhontfaen, ar gyrion Porthyrhyd, ddydd Sul 28 Ebrill.

Dywedodd rhai o drigolion y pentref eu bod yn teimlo ei fod yn cefnogi eu dadl na ddylai pwyllgor cynllunio'r cyngor fod wedi rhoi caniatâd ar gyfer datblygiad.

Dywedodd Mudiad Amddiffyn Porthyrhyd ei fod yn enghraifft arall o “gatalog o ddigwyddiadau oherwydd system sy’n methu”.

Dywedodd un o drigolion y pentref, Bethan Jones: “Pwy a ŵyr beth fydd yn digwydd pan fyddant yn cynyddu maint y pentref mewn un datblygiad? Mae’n wallgofrwydd llwyr.”

Dywedodd Dŵr Cymru nad oedd unrhyw broblem gyda capasiti'r rhwydwaith carthffosiaeth sy'n gwasanaethu'r pentref.

Dywedodd llefarydd: “Cawsom adroddiad o fyrst ar y bibell garthffos ym Mhontfaen ddydd Sul (Ebrill 28) y mae ein tîm bellach wedi’i atgyweirio.

“Mae ein system yn yr ardal yn gweithredu fel arfer ac mae byrstiau ar bibellau carthffosydd pwysedd uchel fel hyn yn gallu ac yn digwydd oherwydd traul arferol. 

“Hoffem ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra a achoswyd gan y byrstio.”

‘Siomedig’

Bydd y 42 o gartrefi a gynigir gan Jones Bros (Henllan) Ltd a’r darparwr tai cymdeithasol Pobl Group, sy’n cynnwys 29 o rai fforddiadwy, yn cynyddu maint Porthyrhyd tua 50%. 

Wrth awgrymu y dylid cymeradwyo’r cais ddydd Iau dywedodd un o swyddog cynllunio'r sir John Thomas bod y datblygiad yn cynnwys “llai na’r cyfartaledd arferol” o dai a bod yna “angen mawr” ar gyfer tai fforddiadwy yno.

Ond wrth ymateb i’r datblygiad dywedodd Dyfodol i’r Iaith eu bod nhw’n “hynod siomedig”.

Mae’r mudiad yn galw ar y Cyngor Sir “i gynnal asesiad effaith ieithyddol annibynnol 18 mis ar ôl i bobl symud i’r holl dai newydd fel sail wirioneddol dros sefydlu beth yn union yw’r effaith ieithyddol”. 

“Dyna’r unig ffordd i sefydlu beth yw perthynas rhwng tai lleol, fforddiadwy a’r Gymraeg,” medden nhw.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.