Prifathro yng Ngwynedd ‘wedi rhoi ei ddwylo’ ar blentyn
Mae plentyn wedi honni fod prifathro yng Ngwynedd wedi bod yn gafael yn ei dwylo yn aml, wedi rhoi ei ddwylo ar ei choesau a holi am ei bywyd rhywiol.
Mae Neil Foden - oedd yn bennaeth yn Ysgol Friars, Bangor, ac yn Bennaeth Strategol Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes - yn gwadu 20 o gyhuddiadau sy'n ymwneud â throseddau rhyw yn erbyn pump o blant rhwng Ionawr 2019 hyd at fis Medi 2023.
Fe welodd y llys dystiolaeth fideo gan yr erlyniad brynhawn Mawrth, yn dangos person ifanc a elwir ‘plentyn B’, mewn cyfweliad gyda’r heddlu ar ôl i Mr Foden gael ei arestio ym mis Medi 2023.
Does dim modd adnabod y pum plentyn sydd ynghlwm â’r cyhuddiadau yn erbyn Neil Foden.
Yn y cyfweliad fideo, fe honnodd Plentyn B:“Roedd yn gafael yn fy nwylo o hyd, weithiau am funud neu ddau ar y tro.
“Roedd yn gwneud i mi deimlo’n anghyfforddus, a dwi’n cofio meddwl ar y pryd, tydi hyn ddim yn iawn.
“Ar un adeg roedd o yn gafael yn fy nwylo, ac yna fe wnaeth o afael yn fy nghoes, a chadw ei law yno am amser hir.”
‘Ddim yn normal’
Fe ddywedodd Plentyn B nad oedd yn gwybod sut i ymateb i ymddygiad Mr Foden ar y pryd.
Fe aeth y plentyn ymlaen i ddisgrifio sefyllfaoedd lle roedd Neil Foden wedi gwneud iddi deimlo’n anghyfforddus.
“Fe gafo ni sgwrs unwaith am gyfathrach rywiol, ac roedd yn fy holi sut oeddwn yn teimlo am y peth. Fe ofynodd wrtha i sut y byddwn yn dymuno i golli fy ngwryfdod (virginity).
“Os oeddwn i’n gwisgo sgert, fe fyddai wastad yn gwneud sylw am y peth, byddai’n dweud; ‘O, ti’n gwisgo sgert heddiw.’
“Eto, doeddwn i ddim yn teimlo fod hyn yn rhywbeth normal i rhywun ddweud.”
Fe ddywedodd y tyst hefyd fod Mr Foden wedi ceisio rhoi ei gyfeiriad e-bost iddi, ond ei bod yn teimlo’n rhy anghyfforddus i ddechrau cysylltu â Neil Foden dros e-bost.
“Roedd Neil Foden wastad yn ceisio bod y person roeddwn i’n ymddiried ynddo fwyaf,” meddai.
“Roedd hynny’n bwysig iddo.”
Mae’r achos yn parhau.