Newyddion S4C

Bwrdd iechyd y gogledd yn gwario dros £1m y mis ar anfon cleifion iechyd meddwl allan o'r rhanbarth

Newyddion S4C 30/04/2024

Bwrdd iechyd y gogledd yn gwario dros £1m y mis ar anfon cleifion iechyd meddwl allan o'r rhanbarth

Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi gwario dros filiwn o bunnoedd bob mis yn anfon cleifion iechyd meddwl allan o'r gogledd am driniaeth eleni. 

Daw'r ffigyrau i'r amlwg wedi i raglen Newyddion S4C anfon cais rhyddid gwybodaeth at Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, sydd o dan fesurau arbennig, gan ddarganfod i 48 claf â phroblemau iechyd meddwl gael eu hanfon y tu allan i'r ardal i gael eu trin ar Fawrth y cyntaf eleni.

Datgelodd y cais hefyd mai 22 o gleifion oedd yn cael eu trin y tu allan i ardal y bwrdd ar yr un dyddiad y llynedd, gyda dim ond tri wedi eu hanfon o ogledd Cymru ar ddydd Gwyl Dewi 2022.

Cyfaddefodd Dr Alberto Salmoiraghi, cyfarwyddwr meddygol iechyd meddwl Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr eu bod nhw'n gwario "swm eithafol ar drin pobl yn rhywle arall" a bod "risg ynghlwm â hynny", gan ddweud hefyd bod y bwrdd "yn ceisio gwella'r" sefyllfa.

Dywedodd Dr Salmoiraghi bod nifer o ffactorau yn gyfrifol am y cynnydd mewn cleifion yn cael eu hanfon o'r gogledd am driniaeth, gan gynnwys cynnydd mewn galw am wasanaethau, diffyg staff a rhai cleifion yn gofyn am driniaeth tu allan i'w cynefin.

Yn ol Dr Salmoiraghi, mae'r ffordd mae'r bwrdd iechyd yn casglu data hefyd yn golygu y gallai rhai sydd yn cael eu trin o fewn i'r bwrdd iechyd ond mewn rhan arall o'r gogledd gael eu cynnwys yn y ffigyrau.

Cysylltodd aelod o staff gwasanaethau iechyd meddwl Betsi Cadwaladr â Newyddion S4C yn gynharach eleni.

Dywedodd y staff eu bod nhw'n poeni am les cleifion, gan ddweud hefyd eu bod nhw'n siomedig i Lywodraeth Cymru, sydd yn goruchwylio'r bwrdd iechyd yn agos, ddweud ym mis Chwefror bod pethau yn gwella o fewn Betsi Cadwaladr.

 'Crac' 

Yn ol y ffynhonnell, mae gweithwyr yn yr adran yn anhapus bod nifer cynyddol o gleifion yn cael eu hanfon o'r ardal am driniaeth, gan gostio'n ddrud i'r bwrdd iechyd. Yn eu barn nhw, "cyfuniad o fethiannau gweithdrefnol a chlinigol" oedd yn gyfrifol.

Mewn ymateb i'r cais rhyddid gwybodaeth, dywedodd y bwrdd iechyd i £35,589.76 gael ei wario ar drin cleifion iechyd meddwl tu hwnt i'r gogledd ar Chwefror 29ain eleni. 

Mae Newyddion S4C wedi cael cadarnhad wedi hynny i dros £3.5 miliwn o bunnoedd gael eu gwario gan y bwrdd yn anfon cleifion tu allan i'r gogledd am driniaeth yn ystod tri mis cyntaf y flwyddyn.

Mewn datganiad, dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw'n awyddus i bobl gael mynediad i wasanaethau iechyd meddwl mor agos at eu cartrefi â phosibl, gan gydnabod "mewn nifer fach o achosion, mae'n bosib bod gan rai anghenion mwy cymhleth sydd angen gofal arbenigol iawn all ond gael ei ddarparu mewn canolfannau arbenigol tu hwnt i'w bwrdd iechyd lleol".

Cafodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ei roi yn ôl o dan fesurau arbennig gan Lywodraeth Cymru ym mis Chwefror 2023. Roedd hefyd o dan fesurau arbennig rhwng 2015 a 2020.

Ym mis Mawrth, dywedodd Llywodraeth Cymru bod "arweinyddiaeth a rheolaeth y gwasanaeth iechyd meddwl yn parhau yn fregus, ond mae nifer o arolygon mwy cadarnhaol dros y 12 mis diwethaf yn awgrymu gwasanaeth sydd yn sefydlogi."

Image
Nia Foulkes
Mae Nia Foulkes yn byw gydag anhwylder deubegynnol.

'Brawychus' 

Ym Mhentrecelyn ger Rhuthun, Sir Ddinbych, mae Nia Foulkes yn byw gydag anhwylder deubegynnol (bipolar). Yn 2019, wedi genedigaeth ei mab, Gwilym, bu'n rhaid iddi gael gofal arbenigol ym Manceinion. 

Dywedodd bod "Mynd o adre, i gleifion, yn frawychus.

"Dw'i wedi bod drwy gymaint, ac mae'n bwysig bod o fewn cyrraedd adref os yn bosib. Mae'n andros o lot o straen.

"Mae cymorth ffrindiau a theulu yn hynod bwysig."

Yn y Senedd, mae Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr yn feirniadol.

Dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Mabon ap Gwynfor, ei fod yn ymwybodol o gleifion iechyd meddwl yn cael cynnig gwelyau yn Portsmouth a Newcastle. Mae e'n galw am "atebion" gan y bwrdd iechyd a'r Ysgrifennydd Iechyd "am ganiatau i hyn ddigwydd".

Yn ol Darren Millar sydd yn llefarydd ar ogledd Cymru i'r Ceidwadwyr, "Maen nhw [y bwrdd iechyd] mewn mesurau arbennig. Mae'n glir nad yw gweithdrefnau'r Llywodraeth i wella gwasanaethau yn llwyddo."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.