Newyddion S4C

Prif Weinidog yr Alban Humza Yousaf yn ymddiswyddo

30/04/2024

Prif Weinidog yr Alban Humza Yousaf yn ymddiswyddo

Dan bwysau a nunlle i droi ac wedi dyddiau o bwysau gwleidyddol, roedd yr ysgrifen ar y mur i Humza Yousaf.

"After spending the weekend reflecting on what is best for my party, for the government and for the country I lead, repairing our relationship across the political divide can only be done with someone else at the helm."

Llai nag wythnos sydd ers iddo ddod a'r drefn o rannu grym a'r Gwyrddion i ben. Heb fwyafrif yn y siambr yn Holyrood, dros y penwythnos aeth y Prif Weinidog ati i gael cefnogaeth gan y gwrthbleidiau ond doedd hynny ddim i fod.

Heddiw, Humza Yousaf yn cyfaddef y gallai fod wedi gwneud yn well.

"Roedd Humza Yousaf wedi ymddangos fel the continuity candidate. Dw i'n credu bod pobl wedi'i weld o fel dyn cymharol di-carisma, fel dyn gonest oedd â bwriadau da ond nid gyrfa llachar fel Prif Weinidog yr Alban."

Llai na 400 niwrnod yn Brif Weinidog roedd digon i'w gadw'n brysur. Cysgod y cwestiynau am drefniadau ariannol yr SNP ac yna tro pedol ynglŷn ag addewidion am dargedau gwyrdd. Doedd hi ddim yn bosibl iddo barhau wrth y llyw.

"O'n nhw eisiau gweld newid arweinyddiaeth. Doedd y weledigaeth ddim yn glir."

Oedd e'n anochel bod yn rhaid iddo fynd?

"Oedd, ond o'n i yn sori i weld e'n mynd. Roedd e'n hynod alluog ac wedi dangos arweinyddiaeth anhygoel. Ond roedd e'n anochel iddo fe fynd. Collodd niferoedd yn y siambr felly doedd dim modd iddo gario 'mlaen. Gobeithio gallen ni ail-sefydlogi fel plaid."

"I thought it would happen but not so quickly. Given the politics at the moment, they'll have an election."

"It came as a surprise after the years of stability with an SNP government so we're now in unchartered territory."

Who would like to see as the next First Minister?

"I don't have a choice. The first dabs will be for the SNP to choose someone who's acceptable."

Ac yntau'n wynebu dwy bleidlais o ddiffyg hyder, dywedodd Humza Yousaf heddiw y byddai wedi gallu goroesi y rheiny. Ond nad oedd am ildio ei egwyddorion.

Ag yntau wedi arwain ers dros flwyddyn mae'r ras i'w olynu wedi hen ddechrau. Mae'n ymddangos gall y dewis fod rhwng John Swinney, cyn-arweinydd yr SNP a chyn-ddirprwy Prif Weinidog, a Kate Forbes wnaeth golli i Humza Yousaf yn yr her ddiwethaf i fod yn Brif Weinidog.

Y ddau geffyl blaen mae'n debyg ar hyn o bryd.

"Kate Forbes dw i yn licio ac o'n i licio hi y tro diwethaf. Fi'n credu wnaeth hi jyst colli. Dw i ddim yn credu bydd hwn mor gas ag oedd e y tro diwethaf."

O'r economi i ysgolion a phroblemau cyffuriau. Bydd gan arweinydd nesaf y blaid sawl her, heb anghofio'r cwestiwn cyfansoddiadol.

"Mae pleidlais o ddiffyg hyder yn y Llywodraeth sy dal yn sefyll. Mae'r Gwyrddion yn awgrymu efallai bydd cytundeb dros dro ond 'dan ni ddim yn gwybod os yw hynny'n mynd i afael.

"Mae posibiliad o etholiad ar y gorwel, ond dw i'n tybio bod neb eisiau hynna."

Gan dderbyn ei ffawd, daeth deigryn bron wrth ymddiswyddo ac yntau'n cydnabod y pwysau a'r fraint.

"Politics can be a brutal business. It takes its toll on your physical and mental health. Your family suffer alongside you. "I am in absolute debt to my wonderful wife, my beautiful children and my wider family."

Bydd ei le yn hanes y wlad yn fawr yr arweinydd cyntaf o dras Asiaidd ar Yr Alban, y Prif Weinidog ieuengaf yn hanes Holyrood.

Ond gyda'i benderfyniad i gefnu ar y Gwyrddion, daeth perthynas i ben a chyda hynny arweinydd arall yr SNP yn gadael dan gwmwl.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.