Newyddion S4C

Achub mochyn daear a syrthiodd oddi ar glogwyn yn Sir Benfro

Achub mochyn daear a syrthiodd oddi ar glogwyn yn Sir Benfro

Mae mochyn daear wedi cael ei achub ar ôl syrthio oddi ar glogwyn ar draeth yn Sir Benfro.

Roedd y creadur wedi syrthio ar gerrig ar Draeth Porthlysgi ger Tyddewi.

Mae bellach wedi ei ryddhau ar ôl cael ei achub a’i feithrin gan yr RSPCA.

Dywedodd un o arolygwyr yr elusen anifeiliaid Keith Hogben bod y mochyn daear wedi ei ddarganfod am 1pm ar 20 Ebrill.

Roedd wedi dychryn a’n gwneud synau truenus, meddai.

“Fe ddaethon ni o hyd iddo yn union o dan dwll oedd yn gartref i foch daear eraill felly roedden ni’n gwybod o ble’r oedd e wedi dod,” meddai Keith Hogben.

“Yn ffodus roedden ni’n gallu dod o hyd iddo ymhlith y creigiau a chyrraedd ato cyn i unrhyw beth ddigwydd iddo. 

“Byddai wedi bod yn agored iawn i niwed allan yn yr awyr agored ac yng ngolau dydd.”

Cafodd ei osod mewn bag arbennig i gario anifeiliaid ac unwaith yr oedd wedi gwella rai dyddiau yn ddiweddarach, dychwelodd yn ôl adref.

Cafodd ei asesu gan Swyddog Bywyd Gwyllt yr RSPCA, Ellie West.

“Ar ddydd Llun 22 Ebrill aethpwyd ag ef yn ôl i’r set gyda’r nos a’i ryddhau,” meddai.

“Roedden ni’n falch iawn ei fod wedi gallu ei ryddhau cyn gynted ag yr oedd yn dal i fod mewn oedran sugno.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.