‘Syndod’ pe na bai newidiadau i’r cynllun amaeth meddai ysgrifennydd gwledig newydd
‘Syndod’ pe na bai newidiadau i’r cynllun amaeth meddai ysgrifennydd gwledig newydd
Mae Ysgrifennydd Materion Gwledig newydd Cymru wedi dweud y byddai yn “synnu” pe na bai unrhyw newidiadau i gynllun amaeth ei lywodraeth.
Dywedodd Huw Irranca-Davies wrth raglen Ffermio ar S4C bod dros 12,000 o bobl wedi ymateb i ymgynghoriad ar eu cynllun ar gyfer cymhorthdal newydd i ffermio.
Mae elfennau o’r cynllun gan gynnwys yr angen i neilltuo 10% o dir ffermydd ar gyfer coed wedi bod yn ddadleuol.
Fe wnaeth 5,000 o bobol brotestio y tu allan i’r Senedd yn erbyn elfennau o’r cynllun ym mis Chwefror.
“Fe fyddwn i’n synnu pe na bai yna rai newidiadau” ar rai “pynciau dyrys,” meddai Huw Irranca-Davies.
“Byddwn yn synnu’n fawr iawn ar gefn rhai o’r pryderon cryf sydd wedi’u dangos mewn rhai meysydd.
“Mae yna gytundeb mawr wedi bod rhaid dweud mewn rhai meysydd eraill.
“Dyma ddiwedd saith mlynedd o drafod, y mae llawer ohono wedi’i wneud law yn llaw gan ddod â’r holl randdeiliaid ynghyd.”
‘Mwy o ansicrwydd’
Ychwanegodd Huw Irranca-Davies mai 12,000 oedd un o'r ymatebion mwyaf erioed i unrhyw ymgynghoriad a’i fod “wirioneddol yn gwrando”.
Gofynnwyd iddo a fyddai’r amserlen ar gyfer rhoi’r newidiadau ar waith yn newid yn sgil yr angen i ymateb i’r ymgynghoriad.
“Os oes ewyllys da, a bod ymddiriedaeth, a bod mater yma o ailadeiladu’r cytundeb a oedd gennym dros y saith mlynedd diwethaf,” meddai.
“Y peth gwaethaf y gallwn ei wneud yn y byd mewn gwirionedd i ffermwyr yw ychwanegu hyd yn oed mwy o ansicrwydd i hyn wrth symud ymlaen a dweud wrthynt, gadewch i ni gymryd dwy flynedd arall, tair blynedd arall.
“Rydym bellach saith mlynedd ar ôl ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.
“A lle bynnag oeddech chi’n sefyll ar y ddadl honno, mae wedi bod yn saith mlynedd o ansicrwydd.”