Newyddion S4C

Rwanda: Swyddfa Gartref ddim yn gwybod lle mae mwyafrif y mudwyr

30/04/2024
Cwch gyda cheiswyr lloches

Does dim modd dweud lle yn union mae mwyafrif y ceiswyr lloches sydd wedi eu clustnodi i fynd i Rwanda meddai'r Swyddfa Gartref.

Mae dogfennau gan y swyddfa yn dangos bod 5,700 wedi eu dewis fel y rhai cyntaf i fynd i'r wlad.

Ond dim ond 2,143 "sydd yn parhau i fod mewn cyswllt gyda'r Swyddfa Gartref" ac yn gwybod lle y maent.

Mae'r Swyddfa Gartref yn gwadu bod y 3,557 eraill ar goll.

Dyw nifer o geiswyr lloches ddim yn aros mewn llety sydd yn cael ei ddarparu gan y llywodraeth.

Dyw rhai chwaith ddim yn gorfod ymweld mewn person â swyddogion ond yn hytrach maent yn gallu gwneud hyn yn ddigidol.

Mae dogfennau yn dangos fod y ceiswyr lloches cyntaf sydd i fod i fynd i Rwanda wedi cyrraedd Prydain yn anghyfreithlon rhwng Ionawr 2022 a mis Mehefin 2023. 

Roedden nhw yn barod wedi cael gwybod nad oedd eu ceisiadau i aros wedi eu derbyn a'u bod yn cael eu hystyried er mwyn symud i Rwanda. Ond fe fuodd yna oedi ar ôl i'r Llys Apêl gyhoeddi bod y polisi yn anghyfreithlon y llynedd.

Mae'r dogfennau asesiadau hefyd yn nodi y gallai Aelodau Seneddol lobïo i geisio cadw ceisiwyr lloches ym Mhrydain fyddai yn oedi'r broses.

Yn ôl y Swyddfa Gartref fe fydd yna weithwyr penodol er mwyn ymateb i ASau yn gyflym.

Ychwanegodd y llefarydd y bydd hediadau yn mynd i Rwanda  "yn y 10-12 wythnos nesaf.

"Wrth wneud paratoadau ar gyfer yr hediadau rydyn ni wedi clustnodi'r rhai fydd yn mynd i Rwanda ac mae cannoedd o weithwyr achos yn barod i brosesu unrhyw apeliadau.

"Fyddai hi ddim yn briodol i wneud sylw pellach am broses sydd dal yn digwydd." 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.