Arestio dyn wedi i ddyn arall farw yng ngorsaf drên Pen-y-bont
Mae dyn yn ei 30au wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ddynladdiad wedi i ddyn arall farw yng ngorsaf drên Pen-y-bont ar Ogwr nos Sadwrn.
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r orsaf drên am 01:40 wedi adroddiadau fod rhywun wedi ei anafu.
Fe gafodd dyn yn ei 30au o ardal Pen-y-bont ar Ogwr ei ddarganfod, a bu farw yn y fan a'r lle.
Mae ei deulu yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.
Mae'r dyn sydd wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ddynladdiad wedi cael ei ryddhau o dan ymchwiliad.
Mewn datganiad, dywedodd Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig fod ditectifs yn parhau i ymchwilio i amgylchiadau'r farwolaeth ac fe fydd yna bresenoldeb cynyddol yr heddlu yn yr orsaf dros y dyddiau nesaf.
Ychwanegodd yr heddlu eu bod yn annog unrhyw un sydd gan wybodaeth i gysylltu â nhw.