Yr SNP yn chwilio am arweinydd newydd
Yr SNP yn chwilio am arweinydd newydd
Mae'r SNP yn Yr Alban bellach yn chwilio am arweinydd newydd wedi i Humza Yousaf ymddiswyddo fel arweinydd y blaid ddydd Llun.
Cyhoeddodd Mr Yousaf y byddai'n parhau yn swydd y Prif Weinidog nes bod olynydd yn ei le.
Mae dyfodol Mr Yousaf wedi bod yn fantol ar ôl dod â chytundeb rhannu pŵer yr SNP â Phlaid Werdd yr Alban i ben yn sydyn ddydd Iau diwethaf.
Roedd hyn yn golygu ei fod yn arwain llywodraeth leiafrifol.
Mae John Swinney, cyn arweinydd yr SNP a wasanaethodd am fwy na wyth mlynedd fel dirprwy brif weinidog i Nicola Surgeon, eisoes wedi dweud ei fod yn "ystyried ymgeisio yn ofalus iawn".
Mae'n dweud ei fod wedi derbyn "nifer o negeseuon" gan gydweithwyr yn awyddus iddo roi ei enw ymlaen.
Mae'r rhain yn cynnwys arweinydd y blaid yn San Steffan, Stephen Flynn, Yr Ysgrifennydd Ynni, Màiri McAllan, a'r Ysgrifennydd Addysg Jenny Gilruth.
Gwrthwynebydd posib i Mr Swinney fyddai Kate Forbes, y cyn Ysgrifennydd Cyllid. Fe wnaeth hi ymgeisio yn erbyn Humza Yousaf i fod yn arweinydd y blaid ychydig dros flwyddyn yn ôl.
Yn ystod yr etholiad hwnnw, fe wnaeth Mr Swinney ei beirniadu wedi iddi ddweud y byddai wedi pleidleisio yn erbyn priodas hoyw pe bai hi wedi bod yn Aelod o Senedd yr Alban yn 2014.
Fe sicrhaodd Ms Forbes 48% o'r bleidlais y llynedd.
Fe fydd pwyllgor gwaith cenedlaethol yr SNP (NEC) yn cyfarfod yn ddiweddarach yr wythnos hon i benderfynu ar amserlen ar gyfer yr etholiad arweinyddol.