Newyddion S4C

'Cyfraniad amhrisiadwy': Penodi Llywyddion Eisteddfod yr Urdd

30/04/2024
Gwirfoddolwyr Urdd Maldwyn

Bydd Urdd Gobaith Cymru yn cynnal seremoni anrhydeddu er mwyn diolch i griw o wirfoddolwyr lleol am “ddegawdau o gyfraniad” i’r mudiad. 

Bydd saith o wirfoddolwyr o ardal Maldwyn yn cael eu hanrhydeddu, gan dderbyn teitl Llywyddion Anrhydeddus Eisteddfod yr Urdd 2024. 

Gyda chyfuniad o dros 220 o flynyddoedd o wirfoddoli rhyngddynt, fe fydd y mudiad yn gwahodd Ann Fychan, Carys ac Emyr Evans, Delma Thomas, Heulwen Davies, Hywel Glyn Jones a Menna Blake i seremoni ar 27 Mai er mwyn diolch iddyn nhw am eu gwaith “amhrisiadwy” dros y blynyddoedd. 

Dywedodd Llio Maddocks, Cyfarwyddwr Celfyddydau’r Urdd, bod y saith gwirfoddolwr yn cael eu hadnabod fel “wynebau’r Urdd” ers degawdau.

"Maen nhw yn wir gymwynaswyr i’r Urdd – rhyngddynt, maent wedi rhoi dros 220 o flynyddoedd o gefnogaeth i’r mudiad," meddai.

"Rydym yn hynod ddiolchgar am eu hymroddiad amhrisiadwy a bydd hi’n fraint a phleser eu hanrhydeddu yn yr ŵyl eleni.”

Pwy yw’r saith llywydd? 

Ann Fychan, Abercegir

Mae gwreiddiau Ann Fychan yn treiddio’n ddwfn ym mherfeddion yr hen Sir Drefaldwyn. Ers i’w rhieni arwain yr Adran a’r Aelwyd yn Llanbrynmair yn ystod ei magwraeth, fe dyfodd ei diddordeb ym maes hyfforddi a pherfformio. 

Erbyn yr 1980au, roedd hi'n beirniadu llefaru mewn Eisteddfodau ar hyd a lled y wlad. Ac fel rhan o’r paratoadau at Eisteddfod yr Urdd Maldwyn eleni mae Ann wedi cydweithio gyda Rhydian Meilir ar ‘Gân y Cyhoeddi’ yn ogystal â’r gân Jambori ‘Croeso i’r Steddfod ym Maldwyn’. 

Ei mab, Bedwyr Fychan, yw Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod yr Urdd Maldwyn.

Carys ac Emyr Evans, Cefn-y-Braich

Nid yw Carys ac Emyr Evans yn rhai i laesu dwylo, ac mae dyled plant a phobl ifanc ac aelodau Aelwyd Llansilin iddynt yn fawr. Cafodd y ddau eu hanrhydeddu â Thlws John a Ceridwen Hughes yn Eisteddfod yr Urdd 1995.

Mae gan Emyr o Gefn-y-Braich atgofion melys o ddyddiau cynnar Aelwyd Llansilin, o drefnu twmpathau wythnosol a mynychu penwythnosau’r Urdd ym Mhantyfedwen. Bu’n gyfrifol am arwain yr Aelwyd yn Llansilin bob nos Wener rhwng yr 1950au a dechrau’r 1980au, a threfnu amrywiaeth o weithgareddau i blant a phobl ifanc y fro, o gystadlu eisteddfodol a chwaraeon i dripiau cerdded i gopa’r Wyddfa.

Yn wreiddiol o Rhydycroesau, byddai Carys yn cystadlu yn yr Urdd ers dyddiau ysgol. Ar ôl cymhwyso fel athrawes a threulio tair blynedd yn dysgu’n Lloegr dychwelodd adref i helpu Emyr i redeg Aelwyd Llansilin. Bu’n brysur fel Cadeirydd ac Ysgrifenyddes yr Eisteddfod Cylch, yn hyfforddi plant at Eisteddfodau’r Urdd ac mae hefyd yn helpu Aelwyd Sycharth, yn ôl yr angen.

Delma Thomas, Caersws

Yn wreiddiol o Glandwr, ger Crymych yn Sir Benfro, mae profiadau Delma o fod yn aelod o’r Urdd yn cynnwys cystadlu’n yr Eisteddfod a threulio wythnosau o’i gwyliau haf yn helpu yng ngwersyll Llangrannog yn ystod dyddiau coleg.

Symudodd i Faldwyn ar ôl cymhwyso fel athrawes i ddysgu yn ysgolion Clatter a Chaersws, ac yn ddiweddarach yn ardal Y Drenewydd a’r Trallwng. Yn yr 1970au roedd hi'n ysgrifenyddes Cylch Bro Ddyfi, ac yna’n ysgrifenyddes Rhanbarth Maldwyn am ddeugain mlynedd, tra hefyd yn trefnu Eisteddfodau Cynradd, Uwchradd ac Aelwydydd yn flynyddol. Cafodd ei hethol i fod yn Ysgrifenyddes Eisteddfod yr Urdd pan ddaeth yr Eisteddfod i’r Drenewydd yn 1988.

Heulwen Davies, Dolanog

Yn wreiddiol o Lanerfyl mae Heulwen wedi bwrw gwreiddiau ger Dolanog ers nifer o flynyddoedd bellach. Mae wedi cystadlu’n frwd yn Eisteddfodau’r Urdd gan gynnwys yr Unawd, Deuawd, Cerdd Dant, a Phartïon a Chorau a gydag Aelwyd Dyffryn Banw, a daeth i’r brig ddwywaith yn yr unawd agored yn ystod ei hugeiniau.

Ar ôl graddio fel athrawes cerdd, aeth ati i hyfforddi plant i gystadlu yn Eisteddfodau yr Urdd am 37 o flynyddoedd yn ogystal â hyfforddi gydag Aelwyd Penllys am 30 mlynedd. Fe’i hanrhydeddwyd â Thlws John a Ceridwen Hughes yn Eisteddfod yr Urdd 2004. 

Hywel Glyn Jones, Y Drenewydd

Mae’r Urdd wedi bod wrth galon Hywel erioed, wedi i’w dad fod ynghlwm â'r Eisteddfod yr Urdd gyntaf yng Nghorwen.  

Er ei fod wedi symud o ardal i ardal gyda’i waith, byddai Hywel bob tro yn driw i’r Urdd. Roedd yn aelod o bwyllgor Rhanbarth Meirionnydd, yn arweinydd ar Aelwyd Penrhyndeudraeth ac yn drysorydd y rhanbarth – a hynny oll cyn dod yn aelod o Bwyllgor Rhanbarth yr Urdd Maldwyn ac yn drysorydd am dros ugain mlynedd. Mae’n aelod o Bwyllgor Gwaith Eisteddfod Maldwyn 2024 ac yn Ysgrifennydd y Pwyllgor Cyllid.

Menna Blake, Cwmllinau

Cafodd Menna brofiad o fod yn aelod o’r Urdd trwy’r Adran Bentref, fel disgybl yn Ysgol Uwchradd Machynlleth ac yn aelod o Aelwyd Cwmllinau. Treuliodd bron i ddeugain mlynedd fel athrawes yn Ysgol Llanbrynmair ac yna yn Ysgol Glantwymyn, yn hyfforddi canu, cerdd dant a dawnsio gwerin ac yn sicrhau cyfleoedd i blant a phobl ifanc yr ardal i brofi holl weithgareddau’r Urdd, o gystadlaethau chwaraeon i fynychu gwersylloedd preswyl yn Llangrannog a Glan-llyn. Bu’n gadeirydd Pwyllgor Cylch Bro Ddyfi ac yna yn ysgrifennydd am nifer o flynyddoedd.

Bydd Eisteddfod yr Urdd Maldwyn yn cael ei chynnal ym Meifod rhwng 27 Mai a 1 Mehefin.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.