Newyddion S4C

Cei Connah yn ennill Cwpan Cymru

28/04/2024
CPD Cei Connah

Fe wnaeth Cei Connah ennill Cwpan Cymru JD ddydd Sul gan guro’r ffefrynnau Y Seintiau Newydd o 2-1 ar faes Rodney Parade yng Nghasnewydd.

Roedd Y Seintiau Newydd yn anelu i gwblhau’r trebl domestig am y trydydd tro yn eu hanes, a chodi Cwpan Cymru JD am y 10fed tro.

Roedd y clwb eisoes yn bencampwyr cynghrair Cymru Premier JD ac wedi ennill Cwpan Nathaniel MG ym mis Ionawr.

Harry Franklin a Josh Williams sgoriodd y goliau dros y Nomadiaid i sicrhau’r fuddugoliaeth annisgwyl.

Llun: X/CPD Cei Connah

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.