Adeiladau ysgolion yn dirywio o achos diffyg cyllid medd adroddiad
Mae adeiladau ysgolion yn dirywio oherwydd diffyg cyllid yn ôl undeb addysg.
Mae arolwg gan undeb arweinwyr ysgolion NAHT yn nodi fod pedwar allan o bump yn dweud nad oes digon o gyllid i gynnal a chadw eu hadeiladau.
Arolwg yw hwn ar draws y DU gan yr undeb, sydd hefyd yn cynrychioli arweinwyr ysgolion yng Nghymru.
Mae'n nodi fod 20% o’r 1,000 arweinwyr a wnaeth gymryd rhan yn dweud nad oes modd cynnal a chadw rhan o safleoedd eu hysgolion. Mae'r rhain yn cynnwys dosbarthiadau arbenigol, labordai, ardaloedd chwarae, ceginau a thoiledau.
Dywedodd penaethiaid eu bod nhw’n brwydro i ddarparu addysg ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.
Dim ond un mewn 20 ddywedodd fod ganddyn nhw ddigon o gyllid i sicrhau fod adeiladau yn cwrdd â gofynion disgyblion.
Roedd dau ymhob pump yn dweud fod yn rhaid iddyn nhw godi arian ychwanegol er mwyn cynnal a chadw adeiladau.
Mae'r adroddiad yn nodi fod rhai penaethiaid wedi gorfod defnyddio dosbarthiadau tamp ac eraill yn methu a defnyddio adeiladau o gwbl oherwydd nad oedden nhw’n ddigon diogel.
Dywedodd yr NAHT fod buddsoddiad mewn adeiladau ysgolion wedi gostwng 50% yn nhermau real ers 2010.
'Argyfwng'
Maent yn galw am fuddsoddiad dwys er mwyn uwchraddio adeiladau ysgolion.
Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol yr undeb, Paul Whiteman: “Mae’r argyfwng yma wedi bod yn mudferwi ers 14 mlynedd ac yn awr yn amlwg i bawb ei weld.
“Yn y flwyddyn ddiwethaf, tra bod argyfwng concrit Raac wedi hawlio’r penawdau mae cannoedd o ysgolion eraill wedi dirywio.
"Mae ein plant yn haeddu dysgu mewn amodau diogel a chysurus. Rwy’n erfyn ar y pleidiau gwleidyddol i ymrwymo i gynllun hirdymor sydd gyda buddsoddiad gwirioneddol i sicrhau fod pob adeilad ysgol yn ddiogel ac yn bwrpasol.”
Fe fydd yr undeb yn cynnal eu cynhadledd flynyddol yng Nghasnewydd y penwythnos nesaf pan fydd cyflwr adeiladau ysgolion yn cael ei drafod.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Dros y naw mlynedd diwethaf mae gan Gymru raglen gynhwysfawr o adfer ac adeiladu ysgolion a cholegau newydd.
"Tra bod gwario cyfalafol addysg yn Lloegr wedi cael toriadau sylweddol mae ein Rhaglen Gymunedol Gynaliadwy ar gyfer Dysgu yn parhau i ddarparu'r rhaglen fwyaf o adeiladu ysgolion ac addysg bellach yng Nghymru ers y 1960au i fynd i’r afael ag ystâd sy’n heneiddio.
"Hyd yn hyn, mae £2.3 biliwn wedi ei dargedi tuag at adeiladau newydd ac adfer hen rhai."
Ychwanegodd y llefarydd bod y llywodraeth wedi buddsoddi £203 miliwn ychwanegol er mwyn cynnal a chadw adeiladau ysgolion dros y pedair mlynedd ddiwethaf.
Llun: Gan NAHT o gyflwr un ysgol ymysg pryderon eu bod yn dirywio.