Newyddion S4C

Prif Gwnstabl yn canmol ymateb staff a disgyblion i ymosodiad Ysgol Dyffryn Aman

27/04/2024
Ysgol Dyffryn Aman

Mae Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed Powys wedi canmol staff, disgyblion, a’r teulu ysgol ehangach am eu "hymateb trawiadol" i’r digwyddiad yn Ysgol Dyffryn Aman ddydd Mercher.

Mae'r heddlu wedi dweud y bydd rhagor o swyddogion ar ddyletswydd yn yr ardal dros y penwythnos wrth i ymchwiliadau'r llu barhau.

Mewn llythyr a anfonwyd ar y cyd â’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Dafydd Llywelyn, dywedodd Richard Lewis: “Mae yna ymchwiliad byw o hyd ac er bod yn rhaid i ni wrth gwrs fod yn ofalus i beidio â pheryglu’r gwaith hwn, mae arwyddion cynnar yn dangos bod ymateb uniongyrchol eich staff a’ch disgyblion yn haeddu canmoliaeth sylweddol.

“Rwy’n ymwybodol bod rhai disgyblion a staff wedi cael eu cynnwys yn fwy uniongyrchol nag eraill ac rwy’n siŵr y bydd amser priodol yn y dyfodol i gydnabod yn swyddogol y rhan a chwaraewyd ganddynt wrth ddod â’r digwyddiad i ben.

“Mae fy nghanmoliaeth hefyd yn estyn i deuluoedd disgyblion a staff sy’n mynychu’r ysgol a’r ffordd dawel a phwyllog yr oeddent yn aros yn amyneddgar am newyddion yn dilyn y digwyddiad. 

"Yr ymateb oedd ymdrech ‘gymuned gyfan’ go iawn yn nhraddodiadau gorau gorllewin Cymru.”

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cadarnhau mai Fiona Elias a Liz Hopkin oedd y ddwy athrawes a gafodd eu trywanu yn yr ysgol ddydd Mercher. 

Fe gafodd plentyn yn ei arddegau ei drywanu hefyd, ac fe gafodd y tri eu rhyddhau o'r ysbyty ddydd Iau. 

Fe wnaeth merch 13 oed ymddangos o flaen Llys Ynadon Llanelli fore Gwener wedi ei chyhuddo o geisio llofruddio tri o bobl yn dilyn y digwyddiad.

Cafodd y ferch ei chadw mewn sefydliad ieuenctid yn dilyn y gwrandawiad.

Cafodd yr achos ei drosglwyddo i Lys y Goron Abertawe lle bydd y ferch yn ymddangos ar 24 Mai.


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.