Newyddion S4C

Cynnal Seremoni Cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam dros y penwythnos

27/04/2024
Seremoni Wrecsam

Mae Seremoni Cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yn cael ei chynnal yn ystod y penwythnos, gyda 300 o grwpiau ac unigolion yn bwriadu nodi'r achlysur wrth gymryd rhan mewn  gorymdaith fore Sadwrn.  

Fe wnaeth torf ymgynnull yng Nghampws Iâl, Coleg Cambria, cyn cychwyn yr orymdaith gan ddychwelyd i Lwyn Isaf, y tu allan i Neuadd y Ddinas ar gyfer y seremoni swyddogol. 

Yn ystod y seremoni fe wnaeth yr Archdderwydd presennol, Myrddin ap Dafydd drosglwyddo’r awenau i Mererid Hopwood, a fydd yn arwain a llywio gwaith yr Orsedd dros y blynyddoedd nesaf.

Roedd yr orymdaith yn cynnwys cynrychiolwyr o sefydliadau a chymdeithasau lleol ynghyd â Gorsedd Cymru, i groesawu’r Eisteddfod i’r ardal, a chyflwyno’r ardal i’r Eisteddfod.  

Yn hanesyddol, mae’n rhaid cyhoeddi bwriad Eisteddfod i ymweld ag ardal o leiaf blwyddyn a diwrnod cyn cychwyn y Brifwyl.  Yn ogystal, dyma pryd y cyhoeddir y Rhestr Testunau, sef y rhestr o gystadlaethau a gwybodaeth i unrhyw un sy’n dymuno mynd ati i gystadlu'r flwyddyn nesaf. 

Yn ystod y seremoni, fe wnaeth Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Llinos Roberts, gyflwyno’r copi cyntaf o’r Rhestr Testunau i’r Archdderwydd. 

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Llinos Roberts, “Bwriad y diwrnod yw codi ymwybyddiaeth o’r hyn sydd i ddod ymhen blwyddyn a rhoi blas i bobl leol o seremonïau lliwgar yr Orsedd.  

“Rydyn ni wedi bod yn codi ymwybyddiaeth ac yn creu pwyllgorau ar draws yr ardal dros yr wythnosau diwethaf, ac mae gweithgareddau cymunedol yn dechrau cael eu cynnal yn rheolaidd i gefnogi’r gwaith o gyrraedd targed y Gronfa Leol.  

"Rydyn ni’n edrych ymlaen at bob math o gyfleoedd i gymdeithasu yn Gymraeg a dwyieithog dros y misoedd nesaf wrth i ni baratoi ar gyfer yr ŵyl."

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam o 2-9 Awst y flwyddyn nesaf.

Llun: Eisteddfod Genedlaethol

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.