Lerpwl yn sicrhau cytundeb £9.4 miliwn gyda Feyenoord am Arne Slot
Mae’n debygol taw Arne Slot fydd rheolwr nesaf Clwb Pêl-droed Lerpwl yn dilyn cytundeb o £9.4 miliwn i ddigolledu Feyenoord yn yr Iseldiroedd.
Mae’r Iseldirwr yn barod i gymryd yr awenau i olynu Jurgen Klopp wnaeth gyhoeddi ym mis Ionawr ei fwriad i gamu lawr yn Anfield ar ddiwedd y tymor hwn.
Fe fydd Lerpwl nawr yn cymryd camau i sicrhau cytundeb gyda Slot, sy’n 45 oed, cyn ei apwyntio’n swyddogol.
Yn ôl adroddiadau, mae Lerpwl wedi cytuno i dalu £7.7 miliwn i Feyenoord (9 miliwn Ewro) gydag ychwanegiad o £1.7 miliwn (2 miliwn Ewro).
Fe enillodd Feyenoord yr Eredivisie yn 2022-23 ac mae Slot wedi ennill Cwpan yr Iseldiroedd y tymor hwn.
Mae Feyenoord yn debygol o orffen yn ail yn y bencampwriaeth eleni.
Mae’n debyg fod steil ymosodol sy’n cael ei ffafrio gan Slot, ei bersonoliaeth a’i allu i ddatblygu chwaraewyr yn ffactorau sydd wedi denu Lerpwl.
Dywedodd Jurgen Klopp, chafodd ddim rhan yn y broses o benodi ei olynydd, ei fod yn teimlo fod Slot yn “foi da”.
Dywedodd: “Rwy’n hoffi’r ffordd mae ei dîm yn chwarae pêl-droed. Mae popeth rwy’n clywed amdano fel person yn dweud ei fod yn foi da.
“Rwy’n hoffi hwnna’n fawr iawn – boi da, hyfforddwr da, ac wrth edrych ymlaen ar gyfer y clwb os taw fe yw’r ateb. Rwy’n fwy nag hapus, mae’n swnio’n dda iawn."
Dywedodd Slot ddydd Iau ei fod eisiau symud i Lerpwl. Dywedodd wrth ESPN: “Mae’n edrych yn glir i mi y byddaf yn hoffi gweithio yno.”