Newyddion S4C

Pryder am iechyd Rageh Omaar yn dilyn ei ddarllediad newyddion nos Wener

27/04/2024
Rageh Omaar

Mae ITV wedi cadarnhau bod eu cyflwynydd newyddion, Rageh Omaar, yn “derbyn gofal meddygol” ar ôl iddo fynd yn “sâl” yn fyw ar yr awyr.

Roedd Omaar, Golygydd Materion Rhyngwladol Newyddion ITV, yn cyflwyno'r rhaglen News at Ten ddydd Gwener pan oedd yn ymddangos ei fod yn cael trafferth darllen y bwletin - gan ysgogi pryder am ei iechyd ar gyfryngau cymdeithasol.

“Rydyn ni’n ymwybodol bod gwylwyr yn poeni am les Rageh Omaar,” meddai llefarydd ar ran Newyddion ITV.

“Fe aeth Rageh yn sâl wrth gyflwyno News at Ten ddydd Gwener ac mae bellach yn derbyn gofal meddygol.

“Mae’n diolch i bawb am eu dymuniadau da.”

Dyw hi ddim yn glir beth ddigwyddodd i Omaar, 56 oed, yn ystod y darllediad.

Ond tynnodd ITV y sioe o’i hail-ddarllediad ar ITV+1, gyda neges yn lle hynny yn dweud wrth wylwyr nad oedd ITV “dros dro yn gallu dod â’n gwasanaeth +1 i chi”.

“Byddwn yn ailddechrau yn fuan,” meddai'r neges.

Mae Omaar yn gyfrifol am roi sylw i straeon newyddion mawr ar draws y byd fel y Golygydd Materion Rhyngwladol, tra hefyd yn cyflwyno rhaglen materion cyfoes ITV On Assignment.

Yn ystod ei yrfa, roedd hefyd yn uwch ohebydd tramor i'r BBC, gan godi i amlygrwydd yn ystod rhyfel Irac yn 2003.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.