Newyddion S4C

Mwy o gynorthwywyr dysgu'n arwain gwersi 'o achos prinder athrawon'

27/04/2024
Plant yn darllen

Mae cynorthwywyr dysgu yn gorfod arwain gwersi a rheoli dosbarthiadau ar eu pen eu hunain yn gynyddol o ganlyniad i brinder athrawon, yn ôl yr hyn y maen astudiaeth newydd yn ei awgrymu.

Dywedodd undeb Unison fod disgyblion yn colli cymorth hanfodol oherwydd bod cynorthwywyr dysgu ar gyflog isel yn darparu mwy a mwy o oriau llanw ar gyfer athrawon absennol.

Mae adroddiad yr undeb, 'Teaching on the Cheap?, yn seiliedig ar arolwg o bron i 6,000 o gynorthwywyr yng Nghymru a Lloegr.

Roedd bron i hanner y rhain yn dweud eu bod yn darparu ar gyfer mwy o ddosbarthiadau nawr nag yr oeddent flwyddyn yn ôl.

'Addysgu'n rhad'

Dywedodd Unison fod gormod o gynorthwywyr dysgu ar gyflogau isel yn cyflawni rolau nad ydyn nhw wedi’u hyfforddi na’u talu ar eu cyfer, gan honni bod disgyblion yn cael eu haddysgu “yn rhad”. ​

Mae'r gwaith cyflenwi ar gyfer cydweithwyr yn golygu nad yw tasgau arferol cynorthwywyr addysgu yn cael eu gwneud, gan adael disgyblion y maent i fod i'w cefnogi heb unrhyw gymorth, meddai Unison. ​

Disgrifiodd cynorthwywyr dysgu eu bod yn cael gwybod yn rheolaidd eu bod am arwain dosbarthiadau a hynny yn amrywio o ddosbarthiadau meithrin i flwyddyn chwech, gyda dim ond munudau cyn dechrau'r wers.

Dywedodd rhai sy’n gweithio mewn ysgolion uwchradd eu bod yn cynllunio ac yn dysgu pynciau lefel TGAU lle mae athrawon wedi gadael a does neb wedi eu penodi yn eu lle meddai Unison. ​

Galwodd yr undeb am adolygiad o rôl cynorthwywyr dysgu, gan ddweud eu bod bellach yn darparu gwasanaeth cyflenwi o dan amgylchiadau “ymhell y tu hwnt” i’r hyn sydd wedi’i gytuno’n genedlaethol.

'Annerbyniol'

Dywedodd pennaeth addysg Unison, Mike Short: “Mae’r straen a roddir ar gynorthwywyr dysgu yn annerbyniol ac yn ecsbloetiol.

“Pan maen nhw’n arwain dosbarthiadau llawn, mae cynorthwywyr dysgu yn cael eu dargyfeirio o’r hyn maen nhw’n ei wneud orau ac mae disgyblion sydd angen cymorth ychwanegol yn colli allan. ​

"Mae cyllidebau ysgolion mor dynn fel bod penaethiaid, yn lle dod ag athrawon cyflenwi i mewn i gyflenwi mewn dosbarthiadau, yn gorfod defnyddio cynorthwywyr dysgu yn rhad."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae canllawiau ar sut i ddefnyddio cynorthwywyr addysgu yn briodol mewn ysgolion yn cael eu darparu i bob arweinydd ysgol yng Nghymru. 

"Mae Grŵp Llywio Dysgu Proffesiynol Cynorthwywyr Addysgu hefyd yn datblyguadnoddau pellach ar gyfer arweinwyr a llywodraethwyr ar ddefnyddio cynorthwywyr addysgu yn briodol."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.