Newyddion S4C

Tata yn 'gwrthod' cynllun undebau i ddiogelu swyddi ym Mhort Talbot

25/04/2024
Roy Rickhuss / Gwaith dur Port Talbot

Mae undebau wedi dweud bod eu cynllun i osgoi colli miloedd o swyddi ym Mhort Talbot wedi cael ei wrthod gan gwmni dur Tata.

Beirniadodd undeb Community y penderfyniad i beidio â derbyn “dewis amgen credadwy” yr undebau i "gytundeb wael y cwmni" ar gyfer y diwydiant dur.

Fe wnaeth undebau gyfarfod gyda Tata yn Llundain ddydd Iau, mewn ymgais arall i erfyn ar y cwmni i beidio â bwrw ymlaen â'u cynigion ar gyfer y ffatri ym Mhort Talbot a fydd yn arwain at golli swyddi.

Mae Tata Steel wedi mynnu mai ei gynllun £1.25 biliwn ar gyfer ffwrnais drydan ym Mhort Talbot fyddai’r "buddsoddiad mwyaf yn niwydiant dur y DU ers degawdau, a byddai'n sicrhau dyfodol y diwydiant."

Ychwanegodd llefarydd ar ran y cwmni: “Byddai’n diogelu’r mwyafrif o swyddi, yn lleihau allyriadau carbon y DU o bum miliwn tunnell y flwyddyn a gallai roi hwb i chwyldro diwydiannol gwyrdd yn ne Cymru.”

'Cytundeb dinistriol'

Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol undeb Community, Roy Rickhuss, ar ôl y cyfarfod: “Mae’n hynod o siomedig fod Tata wedi dewis gwrthod y cynllun aml-undeb, sy’n ddewis arall uchelgeisiol ac ymarferol i’w gytundeb wael ddinistriol ar gyfer dur.

“Nid ydym yn derbyn honiad y cwmni bod ein cynllun yn rhy ddrud – mewn gwirionedd, byddai wedi dychwelyd y cwmni i elw.

“Mae Tata wedi gwneud eu penderfyniad, a bydd ein haelodau yn penderfynu ar ein hymateb ar y cyd.

“Gwnaeth Tata gynnig i drafod pecyn gyda’r undebau i roi sicrwydd cadarn i ni ar swyddi a buddsoddiad yn y dyfodol, a byddwn yn ymgynghori â’n haelodau ar sut i symud ymlaen.

“Rydyn ni eisiau gwneud un peth yn gwbl glir i’r cwmni: nid yw hyn drosodd - nid o bell ffordd. Ni fyddwn byth yn stopio ymladd dros ein swyddi, ein diwydiant, a’n cymunedau dur balch.”

'Camgymeriad difrifol'

Mae aelodau undebau Community a'r GMB yn cynnal pleidlais i benderfynu os dylent streicio dros gynlluniau Tata. Mae aelodau Unite eisoes wedi pleidleisio o blaid gweithredu diwydiannol.

Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol Cynorthwyol Community, Alasdair McDiarmid bod y cwmni wedi "colli cyfle" i sicrhau dyfodol "beiddgar ac uchelgeisiol."

“Mae Tata wedi gwneud camgymeriad difrifol wrth wrthod y Cynllun Aml-Undeb, sydd yn cael ei gefnofi gan arbenigwyr. 

"Mae'r cyhoeddiad yn cadarnhau nad oedd hyn erioed yn ymwneud â’r hyn oedd orau i’r diwydiant dur, y wlad na dyfodol hirdymor y busnes: roedd bob amser yn ymwneud â thorri costau yn y tymor byr.

“Gyda’u penderfyniad heddiw, mae Tata wedi colli cyfle hanesyddol i ymrwymo i ddyfodol beiddgar ac uchelgeisiol yn seiliedig ar fuddsoddiad strategol trawsnewidiol. 

"Byddwn yn parhau i alw ar y cwmni i newid cwrs, a bydd mandad clir ar gyfer gweithredu diwydiannol yn ein pleidlais.

“Nid yw ein penderfyniad i wrthwynebu cytundeb gwael Tata ar gyfer dur – cynllun a fyddai’n ddrwg i swyddi, yn ddrwg i’r amgylchedd, yn ddrwg i ddiogelwch cenedlaethol, ac yn ddinistriol i’n cymunedau – erioed wedi bod yn gryfach.”

'Atseinio am flynyddoedd'

Dywedodd Jo Stevens, Ysgrifennydd yr Wrthblaid dros Gymru: “Mae hwn yn ergyd mawr i bobl ym Mhort Talbot, a bydd y canlyniadau economaidd posib yn atseinio ar draws de Cymru am flynyddoedd.

“Mae Ysgrifennydd Cymreig y Ceidwadwyr wedi dweud na fydd unrhyw un yn cael ei adael ar ôl os ydyn nhw’n colli eu swydd. Byddaf yn ei ddwyn i gyfrif ar hynny bob cam o'r ffordd.

“Bydd llywodraeth Lafur y DU yn buddsoddi yn ein diwydiant dur i wneud yn siŵr bod dyfodol dur y DU yn cael ei danio gan sgiliau, talent ac uchelgais gweithwyr dur Cymru.”

'Goblygiadau mawr'

Dywedodd Paul Davies AS, Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ei fod wedi siomi gyda phenderfyniad Tata.

“Mae’n drist iawn clywed bod Tata wedi rhoi’r gorau i’w drafodaethau â'r undebau dur a’i fod yn bwriadu bwrw ymlaen â'i gynigion i gau'r ddwy ffwrnais chwyth. 

"Mae'r Senedd gyfan wedi bod yn glir mai’r peth cywir i’w wneud fyddai cadw ffwrnais chwyth ar agor ym Mhort Talbot yn ystod y cyfnod o bontio i ffwrnais arc drydan”.

“Bydd goblygiadau mawr i weithwyr a'u cymunedau yn sgil y penderfyniad hwn. Mae'n hanfodol eu bod yn cael eu cefnogi drwy'r newid enfawr hwn”.

“Rydym hefyd yn siomedig o weld Tata yn defnyddio cynigion diswyddo fel sglodyn bargeinio â’r gweithlu – dylai pob gweithiwr sy’n cael ei ddiswyddo allu hawlio'r pecyn diswyddo uwch a gynigiwyd eisoes – heb fod unrhyw amodau ychwanegol ynghlwm”.

“Rhaid i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru weithredu'n gyflym i gefnogi'r rhai a gaiff eu diswyddo i symud i gyflogaeth newydd o safon ac i sicrhau na fyddwn yn colli’r gronfa dalent gref sydd gennym ar hyn o bryd yng ngweithfeydd dur de Cymru.”

Llun: PA / Community

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.