Newyddion S4C

Yr Unol Daleithiau wedi rhoi taflegrau pellter hir i Wcráin yn gyfrinachol

25/04/2024
Taflegryn ystod hir

Mae Wcráin wedi dechrau defnyddio taflegrau sy'n teithio pellter hir a ddarparwyd yn gyfrinachol gan yr Unol Daleithiau yn erbyn lluoedd Rwsia, yn ôl swyddogion o America. 

Roedd yr arfau yn rhan o becyn cymorth $300m (£240m) a gymeradwywyd gan Arlywydd yr Unol Daleithiau Joe Biden ym mis Mawrth eleni.

Mae'r taflegrau - sydd yn gallu cyrraedd pellteroedd o hyd at 300km (186 milltir) - eisoes wedi cael eu defnyddio o leiaf unwaith i daro maes awyr Rwsia yn Crimea, yn ôl adroddiad gan asiantaeth newyddion Reuters.

Mae Mr Biden bellach wedi arwyddo pecyn cymorth newydd $61bn ar gyfer Wcráin.

Yn flaenorol, rhoddodd yr Unol Daleithiau fersiwn oedd yn teithio pellter canolig o Systemau Taflegrau Tactegol y Fyddin (ATACMS) i Wcráin ond roedd wedi bod yn amharod i anfon unrhyw beth mwy pwerus, yn rhannol oherwydd pryderon ynghylch cyfaddawdu parodrwydd milwrol yr Unol Daleithiau.

Fodd bynnag, roedd Mr Biden wedi rhoi'r golau gwyrdd yn gyfrinachol i anfon y taflegrau pellter hir ym mis Chwefror.

“Gallaf gadarnhau bod yr Unol Daleithiau wedi darparu ATACMS ystod hir i Wcráin ar gyfarwyddyd uniongyrchol yr arlywydd,” meddai Vedant Patel, llefarydd ar ran y wladwriaeth.

“Ni chyhoeddodd [yr Unol Daleithiau] hyn ar y dechrau er mwyn cynnal diogelwch gweithredol ar gyfer Wcráin yn ôl eu cais."

'Gwneud y byd yn fwy diogel'

Ar hyn o bryd, nid yw'n glir faint o'r arfau sydd eisoes wedi'u hanfon.

Ond dywedodd Cynghorydd Diogelwch Cenedlaethol yr Unol Daleithiau, Jake Sullivan, fod Washington yn bwriadu anfon mwy.

"Fe fyddan nhw'n gwneud gwahaniaeth. Ond fel dw i wedi dweud o'r blaen yn y podiwm yma... does dim un bwled arian," meddai.

Yn y misoedd diwethaf, mae Wcráin wedi cynyddu ei alwadau am gymorth gan y Gorllewin oherwydd prinder bwledi.

“Mae’n mynd i wneud America’n fwy diogel, mae’n mynd i wneud y byd yn fwy diogel,” meddai Mr Biden.

Daw ar ôl i swyddogion feio'r oedi mewn cymorth milwrol gan yr Unol Daleithiau a chynghreiriaid eraill am golli bywydau a thiriogaeth.

Ers i Rwsia oresgyn Wcráin ar 24 Chwefror 2022, mae degau o filoedd o bobl, y rhan fwyaf ohonynt yn filwyr, wedi’u lladd neu eu hanafu.

Llun: John Hamilton/Byddin yr UDA

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.