Newyddion S4C

'Syndod' i benderfyniad Prifysgol Aberystwyth i ddod â chwrs dysgu i ben

24/04/2024

'Syndod' i benderfyniad Prifysgol Aberystwyth i ddod â chwrs dysgu i ben

Y Coleg ger y lli sydd heno â rhai myfyrwyr yn pendroni. Mae'r dyfodol yn ansicr i Lowri, Cerys a Bethan. Y dair ar eu trydedd flwyddyn yn astudio ac am barhau yma yn Aberystwyth y flwyddyn nesa i wneud cwrs TAR.

Y nod wedyn, fyddai gyrfa fel athrawon. Ond, yn annisgwyl ddydd Gwener ar e-bost, neges na fyddai'r cwrs yn parhau.

"Gethon ni ddim rhybudd o gwbl a gweud y gwir. 'Na pam o'n i mwya shocked. Oedd e'n galed eistedd 'na yn meddwl bod ni'n dod 'ma mis Medi a wedyn jyst un e-bost bach yn gweud bod popeth yn mynd i newid yn llwyr a bod rhaid i ni chwilio am rywbeth arall i wneud ym mis Medi.

"O'n ni gyd yn eistedd yna'n hynod o shocked, y tair o'n ni ddim yn gwybod beth i wneud. O'n ni'n chwilio am dai yn Aberystwyth ar y pryd a wedyn oedd newyddion fel'na yn dod, so oedd e'n gymaint o sioc."

Drwy lwc, doedd Cerys heb arwyddo am dŷ i aros ynddo'r flwyddyn nesa. Ond a dim cwrs yma yng Ngheredigion, mae'n rhaid i'r dair rŵan ystyried symud.

"Fi'n credu bydd rhaid yn anffodus. Yn amlwg, 'dyn ni ddim ishe. Ni'n dwlu ar Aberystwyth. Ni'n caru'r lle ond does dim byd 'ma i ni ragor os nag oes 'na gwrs TAR am fod 'ma.

"Mae'n siom achos bod gymaint o ysgolion yr ardal yn dibynnu ar y myfyrwyr i ddod mewn i'r ysgolion i helpu allan a nawr maen nhw 'di colli swmp mawr o bobl i wneud 'na hefyd.

"Dim dim ond yn effeithio myfyrwyr, mae'n effeithio ar lawer mwy hefyd."

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cadarnhau mi fydd y cwrs TAR yn dod i ben. Fe ofynnon ni i lefarydd a fyddai swyddi yn diflannu yn sgîl hyn. Doedden nhw ddim am ymhelaethu ar y datganiad a wnaethpwyd eisoes.

Yn y datganiad hwnnw, mae'r Brifysgol yn dweud na fydd y penderfyniad yn cael effaith ar astudiaethau na chymhwyster y myfyrwyr sydd ar ganol astudio'r cwrs.

Ac y bydd yr ysgol addysg yn dal i gynnig amrywiaeth o gyrsiau eraill.

"Fy mhrif bryder i yw bod rhaid i bobl symud allan o gymunedau cefn gwlad Cymru. Ni'n gweld bod yr ardaloedd a'r cymunedau yma yn diboblogi ar raddfa eang iawn a mae pobl ifanc ddim yn gallu ffeindio cyfleoedd yn yr ardaloedd a chymunedau nhw.

"Mae hynny'n meddwl bod rhaid nhw symud i Gaerdydd i lefydd eraill er mwyn ffeindio cyfleoedd."

Wrth ymateb, fe ddywedodd Cyngor y Gweithlu Addysg, sy'n gyfrifol am gymeradwyo rhaglenni dysgu nad oedd cyrsiau ymarfer dysgu cynradd nag uwchradd Prifysgol Aberystwyth wedi cyrraedd y nod.

Felly, mi benderfynon nhw beidio cymeradwyo'r cwrs. Dydy'r adroddiad sy'n cynnwys y penderfyniad hwn, medden nhw ddim yn ddogfen gyhoeddus, ond mae Partneriaeth Aberystwyth wedi derbyn copi.

Symud ymlaen fydd yn rhaid i Lowri, Cerys a Bethan ei wneud a throi cefn ar Aberystwyth ar ôl i'w cwrs coleg ddiflannu o dan y don.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.