Newyddion S4C

Byddai Llywodraeth Lafur 'yn ail-wladoli'r rheilffyrdd'

25/04/2024
Trenau

Bydd y Blaid Lafur yn ail-wladoli'r rheilffyrdd os byddan nhw'n ennill Etholiad Cyffredinol.

Mae'r blaid yn dweud y bydd cytundebau gyda chwmniau preifat yn cael eu symud i berchnogaeth gyhoeddus fel mae nhw'n dirwyn i ben.

Mae Llywodraeth Lafur Cymru eisoes wedi gwladoli'r rhwydwaith yng Nghymru.

Dywedodd ysgrifennydd trafnidiaeth yr wrthblaid yn San Steffan, Louise Haigh bydd y cynllun yn golygu "gwladoli'r rheilffordd heb i'r trethdalwr dalu ceiniog mewn costau iawndal." 

Bwriad y blaid fyddai creu corff  cyhoeddus hyd braich newydd fyddai'n "unedig ac yn atebol", ac yn cael ei redeg gan arbenigwyr rheilffyrdd.

Bydd Ms Haigh yn dweud:"Gyda newidiadau beiddgar Llafur, bydd rheilffordd mewn perchnogaeth gyhoeddus yn canolbwyntio'n llwyr ar wasanaethu teithwyr."

Mae'r blaid yn dweud y byddai symud i berchnogaeth gyhoeddus yn arbed arian, drwy gael gwared a chostau  gwneud ceisiadau am gytundebau, a dyblygu adnoddau. Byddai'r broblem o ddiffyg cydweithredu rhwng gwahanol gwmniau tren hefyd yn diflannu, medde nhw.

Mae'r Ceidwadwyr eisoes wedi cyhoeddi cynlluniau i greu corff newydd o'r enw "Great British Railways" i fod yn gyfrifol am isadeiledd a dosbarthu cytundebau.  

Mae gweinidog rheilffyrdd Llywodraeth y DU, Huw Merriman wedi beirniadu cynlluniau Llafur, gan honni mai dim ond y Torïaid oedd â “chynllun i barhau i fuddsoddi’r symiau mwyaf erioed yn ein rhwydwaith rheilffyrdd”.

Ychwanegodd: “Mae Llafur wedi cadarnhau y bydden nhw’n bwrw ymlaen â’u cynllun ddibwrpas i wladoli rheilffyrdd, sydd heb ei ariannu ac na fydd yn gwneud dim i wella dibynadwyedd trenau na fforddiadwyedd i deithwyr.

“Yn union fel eu haddewid datgarboneiddio gwerth £28 biliwn y flwyddyn heb ei ariannu, nid oes ganddyn nhw gynllun i dalu am y bil sydd ynghlwm wrth wladoli’r rheilffyrdd. 

"Heb gynllun i dalu am hyn, mae’n golygu un peth: bydd trethi’n codi ar bobl sy’n gweithio’n galed.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.