Newyddion S4C

Plentyn yn honni iddi gael perthynas rywiol gyda prifathro yng Ngwynedd am chwe mis

24/04/2024

Plentyn yn honni iddi gael perthynas rywiol gyda prifathro yng Ngwynedd am chwe mis

(Gallai peth o'r cynnwys yn yr erthygl beri gofid)

Mae achos llys Neil Foden wedi clywed bod plentyn wedi dweud wrth ffrind iddi ei bod yn cael "perthynas rywiol" gyda'r dyn 66 oed.

Honnir bod Mr Foden - a oedd yn bennaeth yn Ysgol Friars, Bangor, ac yn Bennaeth Strategol Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes - wedi manteisio ar ei sefyllfa i wneud cysylltiadau â phlant.

Fe ddangoswyd fideo i’r llys o gyfweliad i’r heddlu wnaeth ffrind i blentyn A ychydig ddyddiau ar ôl i Mr Foden gael ei arestio.

Yn y fideo fe ddisgrifiodd y tyst ei hun fel “ffrind agos” i blentyn A.

Dywedodd sut roedd plentyn A wedi dweud wrtho ei bod wedi cael “perthynas rywiol’ gyda Mr Foden am tua chwe mis.

Fe ddywedodd y ffrind hefyd fod plentyn A wedi dweud wrtho ei bod hi  a Mr Foden yn cysylltu’n aml dros negeseuon testun, a bod rhai gweithredoedd rhywiol wedi digwydd yng nghar Mr Foden.

Roedd plentyn A hefyd wedi dweud wrth ei ffrind ei bod hi wedi gyrru lluniau o natur rywiol at Mr Foden.

Fe ychwanegodd y tyst fod plentyn A wedi dweud wrtho fod Mr Foden yn awyddus i “fynd â’r berthynas yn bellach, ond fod rhesymau meddygol yn ei atal rhag gallu gwneud hynny.”

'Enw arall'

Dywedodd ffrind arall i blentyn A drwy dystiolaeth fideo ei bod wedi clywed gan ei ffrind ei bod “wedi bod mewn perthynas â Mr Foden”. 

Fe ychwanegodd y tyst ei bod wedi gweld llun gan blentyn A o'r ddau yng nghar Mr Foden, gyda’i phen ar frest Mr Foden, a’i fod gyda’i fraich o amgylch y plentyn yn y llun.

Roedd hefyd wedi gweld fideo byr o blentyn A yng nghefn car Mr Foden.

Roedd y ffrind i blentyn A hefyd wedi dweud wrth yr heddlu fod Mr Foden yn cysylltu yn aml iawn drwy Whatsapp, ond fod Mr Foden yn defnyddio “enw arall” a’i bod wedi gweld fod nifer fawr o negeseuon gan yr un person wedi eu gyrru ar y platfform i blentyn A.

Roedd y ffrind hefyd wedi clywed gan blentyn A ei bod yn aml yn mynd “am reid” yng nghar Mr Foden.

Wrth gael ei chroesholi gan fargyfreithiwr yr amddiffyn, Mr Duncan Bould, fe ddywedodd y ffrind ei bod yn gwybod fod gan blentyn A broblemau neu “issues” iechyd meddwl, a’i bod wedi cael cyfnodau o hunan anafu.

'Mynd a phethau ymhellach'

Mae Mr Foden, 66, o Hen Golwyn, yn gwadu 20 o gyhuddiadau yn ymwneud â phump o blant.

Mae'r honiadau'n  cynnwys cyhuddiadau o weithgaredd rhywiol gyda phlentyn.

Clywodd y llys gan aelod o deulu plentyn A, a ddwedodd fod y plentyn wedi profi bywyd anodd.

Ychwanegodd y tyst bod y plentyn wastad yn cuddio’i ffôn oddi wrth y teulu.

Roedd y ferch wedi dweud wrth yr aelod o'i theulu fod ganddi berthynas agos â Mr Foden a’u bod yn aml yn siarad am “bethau personol” a bod “Mr Foden yn siarad am y ffaith ei fod wedi profi colledion yn ei fywyd” a'i fod yn aml yn prynu cacenau i’r ferch.

Wedi i Neil Foden gael ei arestio, dywedodd y tyst fod plentyn A wedi dweud wrthi ei fod wedi dechrau cyffwrdd ei choesau a’i chlun i ddechrau, cyn dechrau ei chusanu. Yna,  un diwrnod roedd wedi "mynd a phethau ymhellach, ac wedi rhoi ei law yn ei throwsus”.

Roedd plentyn A wedi dweud wrth y berthynas fod yr ymosodiadau rhyw wedi dod yn fwy cyson a’u bod wedi dechrau digwydd “bron bob dydd”.

Fe ddangoswyd cyfres o luniau i’r llys, yn dangos plentyn mewn car gyda Neil Foden, ac fe gadarnhaodd y tyst mai plentyn A oedd y person ifanc yn y lluniau.Mae llys wedi clywed sut roedd Neil Foden wedi gyrru negeseuon whatsapp yn disgrifio sut roedd am wneud gweithred rywiol i blentyn dan 16 oed.

Fe ddywedodd y berthynas hefyd fod plentyn A wedi dweud fod Neil Foden yn cynllunio dathliadau penblwydd arbennig ar ei chyfer, a bod y ddau mewn “cariad â’i gilydd”.

Fe ddywedodd y berthynas fod y plentyn wedi dweud wrthi ei bod yn teimlo rhyddhad o gael ddweud wrth bobl beth oedd wedi bod yn mynd ymlaen, a’i bod “yn brifo” ac yn “teimlo’n fudur”.

'Chwerthin yn nerfus'

Clywodd y llys gan aelod o staff ysgol  bod plentyn A wedi mynd ati hi, gan ddweud bod hi angen dweud rhywbeth "pwysig".

Dywedodd y tyst bod y ferch yn chwerthin yn nerfus ac "yn amlwg yn anghyfforddus iawn.” 

“Mi wnes ei chysuro, a’i sicrhau ei bod mewn man diogel,” ychwanegodd.

“Yna fe ddangosodd [plentyn A] lun i mi oedd yn dangos [plentyn A] yn y car efo Neil Foden.” 

Fe gadarnhaodd y tyst fod plentyn A wedyn wedi dangos negeseuon rhwng y ddau. Roedd y tyst yn adnabod y rhif ffôn fel un Neil Foden, ond  roedd y rhif wedi ei gadw o dan yr enw “Nick Jones”.

Gwelodd y llys luniau o sgwrs Whatsapp  rhwng plentyn A a “Nick Jones” oedd yn disgrifio sut roedd “eisiau gwneud gweithred rywiol” â phlentyn A.

Roedd y plentyn  hefyd wedi dweud fod Neil Foden wedi ei gyrru yn ei gar i leoliad gwledig, er mwyn ymosod arni’n rhywiol.

“Roedd [plentyn A] mor ofnus fod Neil Foden am ddod i edrych amdani unwaith roedd wedi clywed ei bod wedi dweud wrthan ni beth oedd wedi bod yn mynd ymlaen. Roedd yn neidio bob tro roedd unrhyw sŵn.”

Fe gadarnhaodd y tyst fod prosesau amddiffyn plant wedi eu rhoi ar waith yn syth wedi i blentyn A adrodd ei honiadau am Neil Foden, a bod yr heddlu wedi eu galw.

Fe aeth y tyst ymlaen i sôn am blentyn E oedd hefyd wedi hefyd wedi profi cefndir “anodd”.

Roedd [plentyn E] wedi dweud wrthi ei bod mewn perthynas rhywiol gyda Neil Foden.

“Fe es ymlaen i ofyn ‘be ti’n feddwl?’ Ac fe ddywedodd ei bod wedi bod yn cael rhyw gyda Mr Foden, ei bod wedi trio dweud 'na', ond fod Mr Foden ddim wedi hoffi hynny o gwbl.

“Fe ddywedodd wrtha i ei bod yn dewis gwisgo dillad ‘baggy’ pan oedd yn mynd i’w weld, er mwyn cuddio’r ffaith fod Mr Foden yn gwneud pethau iddi, petai rhywun yn cerdded mewn.”

Mae'r achos yn Llys y Goron yr Wyddgrug yn parhau.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.