Newyddion S4C

'Teimlo'n flin' dros Huw Edwards a'i deulu

24/04/2024
Huw Edwards

Mae cadeirydd Pwyllgor Cyfryngau a Diwylliant Ty'r Cyffredin wedi dweud ei bod hi'n "teimlo'n flin" dros y darlledwr Huw Edwards a'i deulu, wedi iddo ymddiswyddo o'i swydd gyda'r BBC.

Dywedodd Caroline Dinenage AS:"Rwy'n teimlo flin drosto fe a rwy'n teimlo'n arbennig o flin dros ei deulu."

"Oedd yna unrhyw beth gallai'r BBC fod wedi wneud i newid hynny, dydw i ddim yn gwybod.

"Ond mae'n ofnadwy. Mae'n teimlo'n sylfaenol anghywir fod bywyd cyfan rhywun wedi cael ei ddifrodi'n barhaol gan rhywbeth fel yna."

Cyhoeddodd Mr Edwards ei ymddiswyddiad "ar sail cyngor meddygol", yn gynharach yr wythnos yma, wedi honiadau ym mis Mai 2023 ei fod wedi talu person arall am luniau o natur rhywiol.

Cafodd ei wahardd gan y BBC yn sgil yr honiadau, ond dywedodd yr heddlu yn ddiweddarach nad oedd unrhyw drosedd wedi digwydd.

Wrth annerch cynhadledd  y Gymdeithas Gwylwyr a Gwrandawyr, dywedodd Caroline Dinenage:"Mae'r BBC mewn sefyllfa gwirioneddol anodd gyda phethau fel hyn. Pan gafodd yr honiadau eu gwneud, doedd hi ddim yn glir pwy oedd yn gwneud yr honiadau, na chwaith beth yn union oedd yr honiadau.

"Mae'n amlwg bellach bod yr hyn roedd Huw Edwards yn ei wneud yn ei amser ei hun, gyda'i offer ei hun. Roedd yn weithgaredd gydsyniol gyda rhywun oedd yn oedolyn. Efallai bod yn annymunol i rhai pobl, ond wnaeth dim byd anghyfreithlon ddigwydd, a mae ganddo hawl i fywyd preifat."   

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.