Newyddion S4C

'Pwysig rhoi Cymru ar y map' medd bachgen 19 oed a dorrodd record ym Marathon Llundain

25/04/2024

'Pwysig rhoi Cymru ar y map' medd bachgen 19 oed a dorrodd record ym Marathon Llundain

Roedd yn "bwysig iawn rhoi Cymru ar y map" yn ôl un bachgen ifanc a wnaeth greu hanes ym Marathon Llundain ddydd Sul.

Mae Lloyd Martin yn 19 oed ac yn byw gyda chyflwr Syndrom Down (Down's syndrome), a ddydd Sul wrth redeg Marathon Llundain, llwyddodd i greu hanes. 

Lloyd ydy'r person ieuengaf yn ei gategori anabledd dysgu i gwblhau marathon. 

Er ei fod bellach yn byw yn Camberley yn Surrey gyda'i deulu, fe gafodd mam Lloyd, Ceri Hooper, ei magu yng Nghaerdydd ac mae ei theulu yn parhau i fyw yno.

"Mae fy nheulu i gyd dal yno felly rydym ni'n ceisio mynd i Gaerdydd ar bob cyfle," meddai hi wrth Newyddion S4C

"Tyfais i fyny yn rhedeg dros Gymru - dwi wedi bod yn rhedeg dros Gymru ers o'n i'n 12/13 oed felly mae yna gysylltiad cryf Cymreig.

"Fyswn i'n dweud ei fod (Lloyd) yn ystyried ei hun yn Gymro oherwydd fy nghysylltiad i. Byddai'n cefnogi Cymru pe byddent yn chwarae rygbi ac yn y blaen, ac rydym ni'n gobeithio symud yn ôl yno."

Image
Ceri a Lloyd
Ceri a Lloyd yn y marathon ddydd Sul. Llun: Ceri Hooper

Yn rhedwr profiadol ei hun, mae Ceri wedi cwblhau saith marathon hyd yn hyn, gan gynnwys pump yn Llundain, un yn Chicago ac un yn Boston, ac roedd hi ochr yn ochr gyda'i mab yn rhedeg yng nghanol yr emosiwn ddydd Sul.

Wrth ymateb i'r profiad bythgofiadwy dros y penwythnos, dywedodd Lloyd wrth Newyddion S4C: "Dwi'n teimlo'n grêt, ac yn gyffrous fy mod gen i'r record byd. Mae'n deimlad anhygoel a dwi'n teimlo fel fy mod i'n enwog!"

Ychwanegodd ei fam: "Dwi mor falch ohono.  Pan dderbyniom ni'r e-bost i ddechrau gan y Special Olympics yn dweud fod yna lefydd ar gyfer pobl anabl os oedd pobl eisiau ymgeisio, meddyliais 'Fyddai Lloyd yn gallu gwneud hyn?'

"Mae o wastad wedi bod yn ffit ac yn iach, ac mae'n caru pob math o chwaraeon, gymnasteg, nofio, pêl-droed, ond fyddai o'n gallu gwneud y marathon go iawn?

"Ro'n i mor emosiynol drwy'r holl ras. Yr eiliad wnaethom ni droi'r gornel ger Palas Buckingham, ac roeddem ni'n gweld y llinell derfyn, fe wnaeth Lloyd wibio amdani, doeddwn i methu ei ddal! 

"Roedd o jyst mor neis i'w weld o o'r tu ôl yn croesi'r llinell. Roedd o'n anhygoel."

Ychwanegodd Lloyd: "Dwi'n gwybod ei fod yn emosiynol iawn, ond i fi, roedd yn teimlo fel bod popeth yn iawn yn y byd. Dwi erioed wedi rhedeg marathon o'r blaen ac fe wnes i jyst wneud o."

Image
Ceri a Lloyd
Mae Ceri 'mor falch' o'i mab. Llun: Ceri Hooper

Roedd Lloyd wedi llwyddo i redeg hyd at 10 milltir heb stop yn y gorffennol, ond fe lwyddodd i gyrraedd ychydig yn fwy na 14 milltir o redeg parhaus cyn cael seibiant ddydd Sul.

"Er ein bod ni wedi cael ambell i gyfnod anodd, roedd y dorf yn gwbl anhygoel, roedden nhw yn ein hannog ni ymlaen," meddai Ceri. 

Roedd Lloyd wedi rhedeg 18 milltir cyn y marathon, ac roedd yr hyfforddiant yn cynnwys mynd i redeg dair gwaith yr wythnos.

Ychwanegodd Ceri: "Cyn belled â'n bod ni yn rhedeg ychydig hirach yn un o'r tair gwaith fel ein bod ni'n cynyddu'r pellter bob yn dipyn yn wythnosol er mwyn i fi wybod y byddai ganddo'r pellter ynddo. 

"Dim ein bwriad ni oedd rhedeg y marathon yn gyflym, roeddem ni jyst eisiau ei gwblhau a chael hwyl."

Ychwanegodd Lloyd: "Doedd o ddim am yr amser a'r ras, roedd o am fod efo ein teulu a'n ffrindiau a chael hwyl."

Image
Lloyd
Mae Lloyd yn hoff o nifer o gampau chwaraeon gwahanol, gan gynnwys gymnasteg, pêl-droed a nofio. Llun: Ceri Hooper

Mae angen newid safbwyntiau cymdeithas wrth ymdrin â phobl sydd ag anabledd dysgu yn ôl Ceri.

"Mae'n hynod o bwysig," meddai.

"Fel rhiant i blentyn sydd ag anabledd dysgu, o'r diwrnod cyntaf rydym ni wedi cael drysau yn cau yn ein hwynebau a lot o ymatebion negyddol gan feddygon ac mae Lloyd wedi eu profi yn anghywir.

"Dwi'n meddwl bod yn rhaid newid yr ystrydebau yna, er mwyn atal cymdeithas rhag tybio fod rhywun gydag anabledd dysgu yn methu â llwyddo oherwydd heb os nac oni bai, maen nhw'n gallu."

Image
Ceri a Lloyd yn rhedeg hanner marathon Caerdydd
Ceri a Lloyd yn rhedeg hanner marathon Caerdydd.  Llun: Ceri Hooper

Ydi Lloyd yn meddwl y bydd yn rhedeg marathon arall rhywbryd?

"Fy ateb i ydi ia. Efallai y gwnaf i redeg y flwyddyn nesaf, jyst oherwydd fy mod i eisiau gwneud fy Mam yn falch ohonof," meddai.

"'Dan ni gyd mor falch ohonot yn barod," meddai Ceri.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.