Pedwar wedi eu cludo i'r ysbyty wedi i geffylau redeg yn rhydd ar strydoedd canol Llundain
Mae pedwar o bobl wedi cael eu cludo i’r ysbyty gydag anafiadau wedi i geffylau redeg yn rhydd ar strydoedd canol Llundain fore Mercher.
Y gred yw bod saith o’r anifeiliaid wedi mynd yn rhydd gan achosi difrod i gerbydau, gan achosi anafiadau i’w hunain yn ogystal â swyddogion y fyddin.
Mae’r unigolion a gafodd eu hanafu, yn ogystal â’r ceffylau, bellach yn derbyn triniaeth feddygol, meddai llefarydd ar ran y fyddin.
Dywedodd llefarydd ar ran y fyddin: “Fe aeth nifer o geffylau’r fyddin yn rhydd yn ystod gwaith ymarfer bore ‘ma."
Cafodd dau geffyl eu gweld yn rhedeg ar hyd ffordd ger Aldwych, sy’n agos West End fore Mercher, gydag yn ohonynt yn ymddangos fel ei fod wedi ei anafu.
Mae sawl llun, yn ogystal â deunydd fideo, wedi ymddangos ar y cyfryngau cymdeithasol, yn dangos y ddau geffyl du a gwyn yn rhedeg heibio ceir ar hyd y ffyrdd.
Mae llygad dystion hefyd wedi disgrifio’r difrod a gafodd ei achosi gan yr anifeiliaid.
Dywedodd un gyrrwr tacsi, oedd yn disgwyl y tu allan i westy’r Clermont ar Ffordd Palas Buckinham, bod ffenestri ei gerbyd wedi’i dorri gan un o’r ceffylau wedi iddo wrthdaro a’r car.
Dywedodd hefyd ei fod wedi gweld tri neu bedwar o geffylau yn gyfagos i’w gerbyd, a’i fod wedi gweld aelod o’r fyddin wedi’i daflu oddi ar gefn un ceffyl.
Roedd ceffyl arall wedi gwrthdaro gyda bws deulawr gan dorri’r ffenestr flaen.
Mewn datganiad, dywedodd Heddlu Dinas Llundain: “Am oddeutu 08.40, fe gawsom ni wybod am geffylau oedd yn rhydd, ac oedd yn teithio trwy’r ddinas.
“Rydyn ni’n disgwyl am focs ceffylau’r Fyddin i gasglu’r anifeiliaid er mwyn eu cludo at filfeddyg.”
Cafodd Gwasanaeth Ambiwlans Llundain eu galw i Ffordd Palas Buckingham am 08.25 yn dilyn adroddiadau fod person wedi cael ei daflu oddi gefn ceffyl.