Cyflwyno strategaeth i 'wella'r Cymru Premier JD ar ac oddi ar y cae'
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cyhoeddi strategaeth newydd gyda'r nod o wella'r Cymru Premier JD 'ar ac oddi ar y cae'.
Y bwriad yn ôl y gymdeithas ydi gwella cystadleuaeth a gweinyddiaeth y gynghrair.
Fe fydd y gynghrair yn trawsnewid i un a fydd yn cael ei chwarae ar nos Wener o dymor 2026/27 ymlaen, gyda disgwyl i'r strwythur gael ei gyhoeddi ym mis Medi eleni.
Ychwanegodd y gymdeithas y byddai buddsoddiad o €860,000 yn cael ei wneud er mwyn 'cryfhau'r cynnyrch ar y cae'.
Fe fydd hyn yn cynnwys cytundebau proffesiynol i chwaraewyr, adolygiad o'r system fenthyg a chyflwyno 'VAR Light'.
Bydd dros €1 miliwn yn cael ei fuddsoddi yn y clybiau er mwyn dechrau'r broses o wella safonau gweinyddol, gan gynnwys cyflogi staff llawn-amser.
Bydd buddsoddiad o €1 miliwn hefyd yn cael ei wneud er mwyn cryfhau proffil a brand y gynghrair o fewn Cymru ac yn rhyngwladol.
Mae'r strategaeth newydd hefyd yn cynnwys sefydlu byrddau cefnogwyr er mwyn casglu adborth gan y cefnogwyr er mwyn 'meithrin cysylltiad dwfn rhwng clybiau a'u cymunedau lleol.'
Mae CBDC hefyd wedi cyhoeddi y byddant yn recriwtio Rheolwr Datblygiad Clwb Elît er mwyn gwella gweinyddiaeth y gynghrair.