Newyddion S4C

Mam i fyfyriwr fu farw yn erfyn ar heddwas i 'ddangos parch'

24/04/2024
Llofruddiaethau Nottingham

Mae mam i fyfyriwr fu farw yn ymosodiadau Nottingham wedi erfyn ar heddwas i 'ddangos y parch na ddangoswyd i'w mab'.

Mae Emma Webber wedi ysgrifennu llythyr agored i aelodau o'r heddlu oedd yn rhan o grŵp WhatsApp lle cafodd negeseuon anaddas eu rhannu.

Bu farw Grace Kumar a Barnaby Webber, y ddau yn 19 oed, yn ystod ymosodiad ar Ffordd Ilkeston yn Nottingham ar 13 Mehefin y llynedd.

Cafodd corff Ian Coates, 65, ei ddarganfod ar Ffordd Magdala yn y ddinas yn ddiweddarach.

Cafodd y tri eu lladd gan Valdo Calocane a gafodd ei fagu yn Sir Benfro. 

Wrth ei ddedfrydu ym mis Ionawr, cafodd ei anfon i ysbyty diogel am oes, wedi iddo bledio yn euog i ddynladdiad pan nad oedd yn ei iawn bwyll. 

Ddydd Gwener diwethaf, fe gafodd teulu'r dioddefwyr wybod y byddai gwrandawiad i adolygu'r ddedfryd yn cael ei gynnal ar 8 Mai.

Dywedodd Mrs Webber ei bod wedi cael ei hatal "sawl gwaith" rhag cysylltu gydag aelodau'r grŵp WhatsApp yn "breifat ac yn ddienw".

Fe benderfynodd felly i ysgrifennu llythyr agored yn The Times er mwyn ceisio eu cyrraedd.

Yn y llythyr, mae'n cyfeirio at nifer o negeseuon a gafodd eu rhoi yn y grŵp.

Mae natur "dideimlad ac israddol" y negeseuon wedi "achosi mwy o drawma nag y gallwch chi ei ddychmygu," meddai.

"Pan wnaethoch chi ddweud fod 'cwpl o fyfyrwyr yn siŵr o fod wedi cael eu lladd', a wnaethoch chi feddwl am y braw y gwnaethon nhw ei deimlo yn yr ymosodiad, pan y cafon nhw eu trywanu sawl gwaith gan ddyn a oedd wedi cynllunio'r ymosodiad, ac oedd yn aros amdanynt yn y cysgod?"

Wrth siarad yn uniongyrchol ag awdur y neges, ychwanegodd Mrs Webber: "Dwi'n gweddïo y byddwch yn darllen hwn ac yn oedi am ychydig. Dangoswch y parch yn y dyfodol na gafodd ei ddangos at Barney.

"Os ydych chi'n teimlo eich bod isio cysylltu, yna hoffwn i chi wybod fy mod i'n caniatáu hynny, ac y bydd yn cael ei gadw yn gwbl gyfrinachol."

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Sir Nottingham wrth The Times: "Mae aelod o staff yr heddlu wedi cael ei ddiswyddo yn dilyn gwrandawiad camymddwyn difrifol ar 5 Ebrill am gamddefnyddio systemau a thorri amodau diogelu data drwy gael mynediad at wybodaeth yn ymwneud ag ymchwiliadau llofruddiaethau diweddar.

"Dangosodd yr ymchwiliad fod yr heddwas wedi defnyddio systemau yr heddlu i ymchwilio i'r troseddwr, Valdo Calocane. 

"Mae'r holl wrandawiadau yn ymwneud â chamymddygiad staff heddlu yn cael eu cynnal yn gyfrinachol. Ni fyddai'n briodol i wneud sylw pellach gan fod ymchwiliad y Swyddfa Annibynnol i Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) yn dal i gael ei gynnal, yn ogystal â'r adolygiad gan y Coleg Plismona."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.