Prifathro o Hen Golwyn wedi 'meithrin perthynas rywiol gyda merch o dan 16 oed'
Prifathro o Hen Golwyn wedi 'meithrin perthynas rywiol gyda merch o dan 16 oed'
Mae'r achos troseddol yn erbyn prifathro o Hen Golwyn sydd yn wynebu honiadau o gamdriniaeth rywiol honedig o blant wedi dechrau.
Mae Neil Foden, 66 oed, yn wynebu 20 o gyhuddiadau sydd yn cynnwys camdriniaeth rywiol honedig o blant, a bod â lluniau anweddus o blentyn yn ei feddiant.
Mae'n gwadu'r cyhuddiadau yn ei erbyn sydd yn ymwneud â phump o blant.
Yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Llun, fe ddechreuodd y bargyfreithiwr John Philpotts drwy amlinellu achos yr erlyniad yn erbyn y diffynnydd.
Dywedodd bod y diffynnydd, oedd yn gweithio yng ngogledd Cymru, wedi defnyddio ei sefyllfa i gysylltu gyda phlant o fewn ardal Gwynedd.
'Meithrin perthynas'
Disgrifiodd Mr Philpotts sut yr oedd Neil Foden wedi dechrau meithrin perthynas gyda merch o dan 16 oed yn 2023, sef 'Plentyn A'.
Fe gafodd y ferch ei disgrifio fel “plentyn bregus” oedd yn wynebu “nifer o heriau yn ei bywyd”.
Fe wnaeth Mr Foden ddechrau cyfarfod â'r plentyn yn "gyson" yn ystod y cyfnod yma mewn sawl lleoliad, gan gynnwys yn ei gar, medd yr erlyniad.
Clywodd y llys fod hyn wedi arwain at gyffwrdd y ferch mewn modd rhywiol.
Aeth Mr Philpotts ymlaen i ddweud sut y gwnaeth y disgybl adrodd am y berthynas yr oedd wedi ei chael â Mr Foden wrth unigolyn arall.
Cafodd camau diogelu plant eu rhoi ar waith yn dilyn hyn.
Aeth y plentyn ymlaen i ddweud wrth dditectifs ei bod wedi cael ei chofleidio gan Foden a bod hyn wedi symud ymlaen i gusanu.
Dywedodd Mr Philpotts fod Foden wedi dweud wrth y ferch bod yn rhaid iddi fynd a'r wybodaeth am yr hyn oedd wedi digwydd rhyngddynt "i'r bedd a pheidio â dweud wrth neb”.
Ond fe wnaethant gyfnewid rhifau ffôn, gyda Foden yn cael ei arbed yn ei ffôn o dan yr enw “Nick Jones”, a chyfathrebu ar Whatsapp, gyda Foden yn dweud wrth yr achwynydd am ddileu ei negeseuon bob dydd.
Daeth y weithgaredd rhywiol honedig yn fwy difrifol gyda Neil Foden yn rhoi ei ddwylo y tu mewn i ddillad isaf y plentyn gan ymyrryd â hi'n gorfforol, yn ôl yr erlyniad.
Ar ddau achlysur bu bron i Mr Foden gael ei ddal wrth ymyrryd â’r ferch, clywodd y llys.
Cyffion
Fe ddisgrifiodd Mr Philpotts sut ddaeth yr heddlu o hyd i bâr o gyffion yng nghar Mr Foden fel rhan o'u hymchwiliad.
Yn dilyn archwiliad fforensig o’r cyffion fe ddaethpwyd o hyd i olion DNA Mr Foden ac un o’r merched ifanc y mae wedi ei gyhuddo o gael perthynas â nhw.
Fe glywodd y llys hefyd sut roedd Mr Foden wedi dechrau cysylltu drwy ei gyfrif e-bost proffesiynol gyda mwy nag un o’r merched, cyn symud ymlaen i ddefnyddio ei gyfrif Whatsapp personol wrth i’r berthynas ddatblygu.
Fe welodd y llys luniau wedi eu tynnu o ffôn symudol yn dangos Mr Foden yn ei gar gyda rhai o’r merched.
'Patrwm'
Clywodd y llys hefyd sut yr oedd Mr Foden yn aml yn cysylltu â’r merched yn hwyr yn y nos, ac yn cyfnewid negeseuon o natur rywiol.
Fe ddywedodd Mr Philpotts fod patrwm amlwg fod Mr Foden yn targedu merched oedd yn dod o gefndiroedd "cymhleth’ ac yn wynebu “heriau yn eu bywydau”.
Fe gyfeiriodd at achlysuron lle'r oedd un o’r achwynwyr wedi treulio noson gyda Mr Foden.
Roedd merch arall yn “awyddus i ddatgelu’r berthynas” ond fod Mr Foden yn poeni y byddai’n “colli ei blant” petai pobl yn dod i wybod am y berthynas.
Mae'r cyhuddiadau yn erbyn Neil Foden yn cynnwys gweithgarwch rhywiol gyda phlentyn, ymosod yn rhywiol ar blentyn, annog gweithgarwch rhywiol â phlentyn, bod â lluniau a fideos anweddus o blentyn yn ei feddiant, cyfathrebu’n rhywiol gyda phlentyn, a cheisio trefnu trosedd o natur rywiol.
Mae'r achos yn parhau.
Llun: Andrew Price