Newyddion S4C

Rishi Sunak am weld ceiswyr lloches yn Rwanda o fewn wythnosau

22/04/2024
Rishi Sunak

Mae’r Prif Weinidog Rishi Sunak wedi dweud y bydd yr hediad cyntaf i gludo ceiswyr lloches i Rwanda yn gadael yn ystod y 10-12 wythnos nesaf. 

Wrth siarad mewn cynhadledd i’r wasg dywedodd Mr Sunak mai “digon yw digon” a’i fod am weld y cynllun yn cael ei weithredu “heb os.” 

Ychwanegodd y byddai ef a’i lywodraeth yn “eistedd trwy’r nos” er mwyn sicrhau fod Mesur Rwanda yn cael ei basio. 

Bwriad y mesur yw anfon rhai ceiswyr lloches i Rwanda er mwyn i'w ceisiadau gael eu prosesu yno. Y nod yw lleihau ar y niferoedd sydd yn croesi'r sianel yn anghyfreithlon. 

Mae’r ddeddfwriaeth wedi cael ei wrthod gan Dŷ’r Arglwyddi dro ar ôl tro yn ystod y pedwar mis diwethaf, gydag Aelodau Seneddol hefyd yn gwrthod newidiadau sydd wedi eu cynnig.

Mae Llywodraeth y DU yn dweud bod Rwanda yn lle diogel.

Ond yn ôl y Goruchaf Lys, mae'r Mesur Rwanda yn anghyfreithlon oherwydd gallai arwain at dorri hawliau dynol.

Nod y gyfraith arfaethedig yw sicrhau y gall y DU anfon ceiswyr lloches i Rwanda drwy ddatgan ei fod yn lle diogel.

Tra bod oedi wedi bod gyda'r mesur mae’r Prif Weinidog wedi dweud ei fod yn benderfynol y bydd yn cael ei basio. 

Dywedodd ei fod yn beio'r blaid Lafur am yr oedi i'r cynllun ond ei fod am "ddechrau'r hediadau ac atal y cychod."

Ychwanegodd fod y mesur yn cyfleu “neges glir” nad oes modd i “ymfudwyr anghyfreithlon” aros yn y DU. 

Llun: Toby Melville/PA Wire

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.