Lansio Swyddfa Genedlaethol Gofal yn 'garreg filltir bwysig'
Mae lansiad Swyddfa Genedlaethol Gofal a Chymorth newydd wedi cael ei ddisgrifio fel "garreg filltir bwysig."
Bydd y ffocws ar wella a thrawsnewid gwasanaethau oedolion a phlant a bydd y gwasanaeth yn cefnogi Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol Cymru yn ei rôl.
Mae'r Gweinidog Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden, wedi croesawu agor y swyddfa.
"Mae lansio'r Swyddfa Genedlaethol Gofal a Chymorth yn garreg filltir bwysig arall yn ein taith uchelgeisiol i greu Gwasanaeth Gofal a Chymorth Cenedlaethol. Bydd yn hanfodol i helpu i arwain y sector wrth iddo ysgogi gwelliannau o ran mynediad at ofal a phrofiad defnyddwyr gwasanaeth.
"Bydd hefyd yn chwarae rhan hanfodol wrth integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol, gan weithio'n agos gyda Gweithrediaeth y GIG i sicrhau bod system iechyd a gofal cymdeithasol Cymru yn addas ar gyfer y dyfodol," meddai.
Dywedodd Albert Heaney, Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol Cymru y bydd y swyddfa yn dod a chyrff a chynghorau lleol at ei gilydd "i gyflawni blaenoriaethau cenedlaethol". Ychwanegodd y bydd hefyd o gymorth wrth gyfeirio adnoddau i'r rhai sydd eu hangen mwyaf.