Newyddion S4C

AS Ceidwadol sy'n wynebu honiadau o gam-ddefnyddio arian ymgyrchu yn gadael y blaid

21/04/2024
Mark Menzies

Mae AS sy’n wynebu honiadau o gamddefnyddio arian ymgyrchu wedi gadael y Blaid Geidwadol ac yn dweud na fydd yn sefyll yn yr etholiad cyffredinol nesaf.

Mae Mark Menzies, sy'n cynrychioli Fylde yn Sir Gaerhirfryn, yn gwadu'r honiadau a gafodd eu hadrodd gan The Times. Mae'r Blaid Geidwadol yn parhau i ymchwilio. 

Cyhoeddodd ddydd Sul na fydd yn sefyll yn yr etholiad cyffredinol nesaf.

Mewn datganiad, dywedodd: “Mae hi wedi bod yn fraint enfawr cynrychioli pobl Fylde ers 2010, ond oherwydd y pwysau arna’ i a fy mam oedrannus, rydw i wedi penderfynu ymddiswyddo o’r Blaid Geidwadol ac ni fyddaf yn sefyll yn yr etholiad cyffredinol sydd i ddod.

“Mae hon wedi bod yn wythnos anodd iawn i mi a gofynnaf i breifatrwydd fy nheulu gael ei barchu.”

Yn ôl y Times, fe gafodd £14,000 gan roddwyr ar gyfer gweithgareddau ymgyrchu Ceidwadol ei drosglwyddo i gyfrif personol Mr Menzies a'i ddefnyddio ar gyfer treuliau meddygol preifat.

Mae Mark Menzies hefyd yn wynebu honiadau ei fod wedi gwneud galwad yn hwyr yn y nos i'w gyn rheolwr ymgyrchu yn gofyn am gymorth gan ei fod mewn trafferth gyda "phobl ddrwg" oedd yn gofyn am filoedd o bunnoedd i'w ryddhau.

Cred y Times yw bod y swm, £6,500, wedi cael ei dalu gan reolwr swyddfa Mr Menzies o'i gyfrif banc personol cyn cael ei ad-dalu gan arian oedd wedi cael ei gasglu gan roddwyr mewn cyfrif o'r enw Fylde Westminster Group.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.