Carcharu cyn-berchennog tafarn am dreisio ac ymosod yn rhywiol
Mae cyn-berchennog tafarn yn Sir y Fflint wedi cael ei garcharu ar ôl i lys ei gael yn euog o dreisio ac ymosod yn rhywiol.
Cafodd Gareth Lambert ei ddedfrydu i 24 mlynedd yn y carchar yn dilyn achos yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Gwener.
Bydd Lambert yn treulio 18 mlynedd dan glo, gyda chwe blynedd arall i'w gwasanaethu ar oruchwyliaeth estynedig.
Cafwyd y dyn 31 oed yn euog o ddau gyhuddiad o dreisio ac un cyhuddiad o ymosod yn rhywiol.
Digwyddodd y troseddau yn Ionawr a Chwefror 2022, pan oedd Lambert yn landlord tafarn Crown and Liver ym mhentref Ewlo.
Cafodd ei arestio yn dilyn adroddiadau gan ddwy fenyw ei fod wedi cyflawni troseddau rhyw yn eu herbyn mewn fflat uwchben y dafarn.
Roedd ei ddioddefwyr yn 25 a 38 oed ar y pryd.
Arweiniodd y Ditectif Ringyll Michael Starkey yr ymchwiliad ar ran Heddlu Gogledd Cymru.
Dywedodd: “Rwy’n cymeradwyo’r dewrder a ddangoswyd gan y ddwy fenyw. Mae eu gwytnwch a’u cryfder drwy gydol y broses wedi bod yn hollbwysig.
“Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi ymrwymo i fynd ar ôl y troseddwyr mwyaf treisgar a pheryglus yn erbyn menywod a merched.
"Byddwn yn annog unrhyw un sy’n destun cam-drin o’r fath i gysylltu â ni. Byddwn yn eich credu, a bydd eich gwybodaeth yn cael ei thrin yn gwbl gyfrinachol.”