Gwaith cynnal a chadw ger y môr yn Hen Golwyn am 'ddiogelu cymunedau am ddegawdau'
Gwaith cynnal a chadw ger y môr yn Hen Golwyn am 'ddiogelu cymunedau am ddegawdau'
Mi fydd gwaith sydd wedi'i gwblhau i atgyfnerthu amddiffynfeydd môr yn Hen Golwyn, yn diogelu cymunedau sir Conwy am ddegawdau i ddod yn ôl y cyngor.
Wedi tair blynedd o waith strwythurol mae'r promenâd bellach wedi ail agor i'r cyhoedd yn dilyn buddsoddiad gwerth £18m.
Roedd pryder yn lleol bod stormydd grymus a chynnydd lefel y môr yn peryglu'r lôn ger llaw ynghyd â'r rheilffordd a phrif draffordd yr A55.
Ar ôl codi lefel y lôn o bron i 2m mae'r cwmni sy'n gyfrifol am y gwaith yn dweud y bydd yn gwarchod yr ardal ac yn sicrhau gall pobl wneud y mwyaf o'r adnodd ‘heb boeni’.
Fe gafodd y promenâd a gwaith strwythurol gwreiddiol ei adeiladu yn yr oes Fictoraidd ac wedi degawdau o stormydd grymus bu'n rhaid cau'r lon sawl gwaith.
Yn ôl Cyngor Conwy, y sir honno sydd a'r dwysedd poblogaeth uchaf sy'n byw ger y môr drwy Gymru a'r gwaith yma wedi bod yn holl bwysig i warchod y cymunedau rheini.
“Mae hwn di bod yn hanfodol bwysig”, medd y Cynghorydd Goronwy Edwards sy’n ddeilydd portffolio Amgylchedd i Gyngor Conwy.
“Mae’r rheilffordd a’r A55 wedi bod dan fygythiad o fethu ac mae hynny wedi’w gydnabod rŵan”.
“Roedd yr hen gwaith Fictoraidd ddim yn ddigonol ac oherwydd y newid hinsawdd oedd o gyd dan fygythiad”.
Ychwanegodd y cynghorydd bod y gwaith ehangach ar draws y glannau wedi rhoi ‘lefel o sicrwydd’ eu bod yn ddiogel ‘am ddegawdau i ddod’.
Y newid mwyaf gweledol yw'r cerrig anferth sydd wedi'w gosod ar hyd y traeth.
Bwriad rhain yw amsugno grym y môr wrth iddo dorri'r glannau yn ôl cwmni Griffiths fu'n gyfrifol am y gwaith.
Mae 160,000 tunnell o gerrig wedi'w gosod a'r rhan fwyaf o chwareli lleol o Fôn, Penmaenmawr a Phentref Helygain.
“Mae’n galluogi i bobl yr ardal wneud y pethau ella da ni’n cymryd yn ganiataol”, meddai Cyfarwyddwr y Gogledd ar ran cwmni Griffiths fu’n gyfrifol am y gwaith, Owain Thomas.
“Plant yn gallu mynd i’r ysgol, mynd i’r siop heb feddwl am y peth ac fel busnes dyma’r math o beth da ni eisiau bod yn involved mewn”.
“Prosiectau sydd yn y cymunedau da ni’n byw a gweithio mewn”.
Fe ddaw cwblhau'r gwaith yn dilyn buddsoddiad enfawr ar draws arfordir Bae Colwyn hyd at Fae Penrhyn lle mae lefel y tywod wedi ei gynyddu yno i greu traethau newydd.
Yn ôl y cwmni'r rheswm mae cerrig wedi ei defnyddio yn Hen Golwyn yw oherwydd y byddai tywod yn cael ei olchi ffwrdd gan lif y dŵr.
Mi oedd y cynllun yn un heriol ar brydiau gyda’r gweithlu yn gorfod gweithio gyda’r llanw mewn amodau oer a gwyntog.
Un sydd wedi bod ar y cynllun ers y dechrau ydi Rhys Owen.
“Y peth mwyaf heriol oedd gweithio gyda’r llanw”, meddai.
“Wrth gwrs oedd angen dechrau yn gynnar yn y bore, weithiau o ni’n dechrau o’r tŷ rhyw 3/ hanner awr wedi 3 y bore i fod yma er mwyn gweithio ac weithiau yn gweithio’n hwyr yn nos hefyd”.
“Lan y môr oni wrthi ac yma ers y dechrau yn gosod y cerrig ma”.
“Mai’n braf [gweld y cynllun yn dod i ben], bechod i weld o’n darfod oni’n mwynhau gwneud y gwaith ond braf gweld o hefyd”.
Gyda rhan fechan ger ardal Rotary Way eto i’w gwblhau'r gobaith ydi ymhen rhai misoedd fydd y promenâd i gyd bron, o Hen Golwyn hyd Bae Penrhyn ar ei newydd wedd ac yn diogelu’r cymunedau am ddegawdau i ddod.