Pontypridd i ddisgyn o'r Cymru Premier JD ar ôl colli eu hapêl i gael trwydded
Fe fydd Pontypridd yn disgyn o'r Cymru Premier JD ar ddiwedd y tymor wedi iddynt golli eu hapêl i gael trwydded i chwarae yn y gynghrair.
Ni chafodd y clwb drwydded haen 1 ar gyfer y tymor nesaf, trwydded sydd ei hangen ar glybiau er mwyn gallu chwarae yn yr uwch gynghrair.
Apeliodd y clwb y penderfyniad, ond yn dilyn gwrandawiad ddydd Iau fe benderfynodd Corff Apeliadau Trwyddedu Clybiau annibynnol Cymdeithas Bêl-droed Cymru bod eu hapêl yn aflwyddiannus.
Wrth ymateb fe ddyweddodd Pontypridd: "Mae ein Clwb wedi’i siomi gan benderfyniad Cymdeithas Bêl-droed Cymru i wrthod ein hapêl cais am drwydded Haen 1 Tîm Dynion ar gyfer Tymor 2024/25.
"Priodolwyd y gwrthodiad hwn i hepgor llofnod ar gyfrifon ariannol a archwiliwyd yn llwyddiannus.
"Yn lle llofnod, roedd y clwb wedi cyflwyno llythyr ffurfiol wedi'i lofnodi gan swyddfa'r archwilydd a oedd yn cadarnhau bod y gwaith papur wedi'i gymeradwyo."
Yn gynt y tymor hwn cafodd naw pwynt eu tynnu oddi ar CPD Pontypridd am dorri rheolau yn ymwneud â chytundebau chwaraewyr a chofrestru chwaraewyr.
Mae'r penderfyniad yn golygu y bydd Aberystwyth neu Fae Colwyn yn cadw eu lle yn y gynghrair.
Mae gan Aberystwyth, sydd yn safle 10 allan o 12, 24 pwynt a Bae Colwyn sydd ar waelod y gynghrair, 22 pwynt.
Mae un gêm yn y gynghrair yn weddill, gydag Aberystwyth yn wynebu Pontypridd a Bae Colwyn yn wynebu'r Barri ddydd Sadwrn.
Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru