'Dan ni jyst yn cymryd dillad ni i ffwrdd am arian'
Mae cyfres newydd gan S4C yn rhoi cipolwg ar y diwydiant rhyw yng ngogledd Cymru.
Mae STRIP yn raglen ddogfen ar Hansh, sy’n dilyn criw o stripars - Nancy’s Girls yn Y Rhyl, Sir Ddinbych.
Mae Rhiannon, sy’n rhedeg Nancy’s Girls, yn cyflogi merched mewn nosweithiau strip pop-up mewn ardaloedd sydd efallai heb weld rhywbeth tebyg o’r blaen.
Ymateb cymysg gafodd criw Hansh ar y stryd yn Y Rhyl wrth drafod nosweithiau Nancy's Girls, gyda rhai yn croesawu'r nosweithiau, ond eraill yn fwy amheus o effaith y digwyddiadau ar ddelwedd yr ardal.
"Mae na stigma mawr am strip clubs a strippers a unrhyw fath o sex workers... eventualy fydd bawb jyst yn gweld ni fel human beings, jyst dan ni'n cymryd ein dillad i ffwrdd am arian." meddai Rhiannon.
Gobaith Rhiannon yw ysbrydoli menywod yn y diwydiant rhyw i gymryd rheolaeth dros eu cyrff a’u harian eu hunain, ar ôl i rai profi clybiau yn eu hecsploetio:
“Dyma pam oni wedi dod fyny efo agreement – dwi’n cymryd 25% gan y gennod a wedyn oni’n meddwl reit, dwi isio mynd allan a ffeindio clybiau eraill sydd isio gwneud hyn.”
“Mae’n siawns i ni i ddod a rhywbeth hollol wahanol i ardal sydd erioed wedi’i weld o.”
Lles y merched
Mae edrych ar ôl lles y merched hefyd yn flaenoriaeth i Rhiannon, ac mae creu “safe space” a chymuned iddyn nhw yn yr ymarferion a’r nosweithiau yn bwysig.
Un o’r pethau mae Rhiannon yn annog yn yr ymarferion yw i bob un ddweud mantra arbennig, ac i bawb arall ei ailadrodd. Er enghraifft “I am surrounded by sexy goddesses,” “I am wealthy and healthy” a “we’re not trash, we’re treasure.”
Un o’r merched yw Jordanna, a hi yw merch trawsryweddol cyntaf y clwb. Cawn ddilyn hanes Jordanna wrth iddi gael hyfforddiant gan Rhiannon ac ymuno mewn gwers goreograffi gyda merched eraill y clwb.
Mae’r clwb yn cynnig cymuned a hyder i Jordanna: “Mae'n anodd bod yn ddynes trans achos mi ydych chi'n gaeth i'r corff anghywir - rydw i wastad yn cymharu fy hun â merched eraill. Fel dynes trans, mae'n gwneud i chi deimlo fel eich bod chi'n cael eich cynnwys, ac eich bod chi ar yr un lefel a merched eraill.
"Dwi'n teimlo fel gallwch chi fynegi eich hunain drwy ddawnsio, ac fe allwch chi adael eich hun mynd, bod eich hunain a dawnsio fel tasai neb yn eich gwylio."
I Rhiannon, y freuddwyd ydi parhau i dyfu ar lwyddiant Nancy’s Girls: “Dwi isio teithio ar draws Cymru a pellach hefyd, gobeithio. Ac i gael mwy o glybiau yn interested mewn cael pop-up strip clubs a jyst normaleiddio sex services a jyst dod a pawb at ei gilydd i gael hwyl.”
Yn siarad â Newyddion S4C, dywedodd Guto Rhun, Comisiynydd Cynulleidfaoedd Ifanc y sianel ei bod “yn braf gallu adrodd straeon unigolion sy’n gweithio’n y diwydiant rhyw yng Nghymru yn agored mewn ffordd bositif a gonest ar S4C.
“Mae Hansh yn blatfform sy’n rhoi llwyfan i bobl ifanc Cymru, beth bynnag yw ei stori.” ychwanegodd Guto Rhun.