Newyddion S4C

AS Ceidwadol o dan ymchwiliad wedi honiadau o gam-ddefnyddio arian ymgyrchu

18/04/2024
Mark Menzies

Mae AS Ceidwadol o dan ymchwiliad gan ei blaid wedi honiadau ei fod wedi cam-ddefnyddio arian ymgyrchu. 

Mae Mark Menzies sy'n cynrychioli Fylde yn Sir Gaerhirfryn yn gwadu'r honiadau a gafodd eu hadrodd gan The Times. Mae'r Blaid Geidwadol yn parhau i ymchwilio. 

Yn ôl y papur newydd, fe gafodd £14,000 gan roddwyr ar gyfer gweithgareddau ymgyrchu Ceidwadol ei drosglwyddo i gyfrif personol Mr Menzies a'i ddefnyddio ar gyfer treuliau meddygol preifat. 

Mae'r papur newydd hefyd yn adrodd fod Mr Menzies bellach wedi colli'r chwip Geidwadol.

Mae Mark Menzies hefyd yn wynebu honiadau ei fod wedi gwneud galwad yn hwyr yn y nos i'w gyn reolwr ymgyrchu yn gofyn am gymorth gan ei fod mewn trafferth gyda "phobl ddrwg" oedd yn gofyn am filoedd o bunnoedd i'w ryddhau. 

Cred y Times yw fod y swm, £6,500, wedi cael ei dalu gan reolwr swyddfa Mr Menzies o'i chyfrif banc personol cyn cael ei ad-dalu gan arian oedd wedi cael ei gasglu gan roddwyr mewn cyfrif o'r enw Fylde Westminster Group.

'Cyfrinachol'

Dywedodd ffynhonnell agos i Mr Menzies wrth y Times bod yr AS wedi cyfarfod dyn ar wefan ddêtio a mynd i'w fflat, cyn mynd gyda dyn arall i gyfeiriad gwahanol a pharhau i yfed. 

Roedd Mr Menzies yn sâl, ac fe wnaeth sawl person fynnu ei fod yn talu £5,000, gan honni ei fod ar gyfer costau glanhau.

Ychwanegodd y ffynhonnell fod Mr Menzies wedi penderfynu eu talu nhw oherwydd ei fod yn ofni beth fyddai'n digwydd fel arall, ond nad oedd ganddo'r arian i drosglwyddo'r arian o'i gyfrif ei hun.

Mewn datganiad i The Times, dywedodd Mr Menzies: "Dwi'n gwadu'r honiadau yn fy erbyn. Dwi wedi cydymffurfio'n llawn gyda'r holl reolau ar gyfer y datganiadau. 

"Gan fod ymchwiliad yn cael ei gynnal, ni fyddaf yn gwneud sylw pellach."

Ychwanegodd llefarydd ar ran y blaid Geidwadol: "Mae’r Blaid Geidwadol yn ymchwilio i honiadau a gafodd eu gwneud ynglyn ag Aelod Seneddol. Mae'r broses hon yn gwbl gyfrinachol.

"Mae’r blaid yn cymryd pob honiad o ddifrif a bydd bob amser yn ymchwilio i unrhyw faterion sy'n cael eu cyflwyno iddyn nhw."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.