Newyddion S4C

Y seiclwr o Aber Stevie Williams yn creu hanes yng Ngwlad Belg

17/04/2024
Stevie Williams

Mae'r seiclwr o Aberystwyth, Stevie Williams, wedi creu hanes drwy fod y dyn cyntaf o wledydd Prydain i ennill ras byd enwog yng Ngwlad Belg. 

Fe enillodd Williams, 27 oed, y clasur La Flèche Wallonne, ddydd Mercher. 

Mae’r  gystadleuaeth yn cael ei chynnal yn rhanbarth Wallonia, ac yn bron i 130km o hyd. 

Ac er gwaetha’r tywydd garw, gan gynnwys glaw trwm ac eira, fe lwyddodd y Cymro i ennill ddydd Mercher. 

Wrth siarad ar ôl ei fuddugoliaeth, dywedodd Williams ei fod yn teimlo'n eithaf emosiynol, a'i fod yn falch o fod yr enillydd cyntaf o wledydd Prydain i ennill y clasur. 

Kévin Vauquelin o Ffrainc ddaeth yn ail, tra oedd Maxim Van Gils o Wlad Belg, yn drydydd.

Llun: @stevie.w/Instagram

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.